Mae’r nifer o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers 2016. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl yn gadael y proffesiwn gwaith cymdeithasol na'r rhai sy'n ymuno ag ef.
Felly, rydym wedi gweithio gyda’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brookes ar adroddiad newydd. Mae’n egluro sut mae pethau ar hyn o bryd, a beth sydd angen inni ei wneud i sicrhau bod gennym ddigon o weithwyr cymdeithasol yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn edrych ar y gwahanol ffyrdd sydd ar gael i gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn cymharu gwaith cymdeithasol â sectorau proffesiynol eraill, fel iechyd, a'r opsiynau sydd ar gael i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yng ngwledydd eraill y DU.
Beth mae'r adroddiad yn ei ddangos
Mae’r adroddiad yn dangos i ni:
- ers 2016, bu gostyngiad o 42 y cant yn nifer y bobl sy’n gwneud cais am gyrsiau cymhwyso gwaith cymdeithasol traddodiadol
- mae nifer y myfyrwyr sy’n cael eu derbyn ar gyrsiau cymhwyso gwaith cymdeithasol yng Nghymru wedi gostwng 25 y cant ers 2016
- Ar gyfartaledd, dim ond 202 o weithwyr cymdeithasol cymwysedig sy’n ymuno â’r proffesiwn allan o’r 326 sydd eu hangen arnom bob blwyddyn yng Nghymru
- mae angen mwy o weithwyr cymdeithasol newydd cymwysedig nag sydd gennym ni, mae hyn yn gwaethygu a bydd yn gwaethygu mwy oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth amdano
- Mae gan Gymru lai o weithwyr cymdeithasol fesul 10,000 o bobl nag unrhyw wlad arall yn y DU.
Yr hyn y mae'r adroddiad yn argymell
Mae’r adroddiad yn argymell:
- llenwi'r holl leoedd ar y cyrsiau cymhwyso gwaith cymdeithasol bob blwyddyn
- ceisio cymhwyso 350 o weithwyr cymdeithasol bob blwyddyn
- recriwtio mwy o weithwyr cymdeithasol newydd cymwysedig gyda gwahanol gefndiroedd a phrofiadau
- helpu i recriwtio pobl mewn lleoedd lle nad oes llawer o weithwyr cymdeithasol
- hyrwyddo gwaith cymdeithasol fel gyrfa.
Beth rydyn ni'n mynd i'w wneud
Rydym yn croesawu canlyniadau'r adroddiad. Mewn ymateb i’w hargymhellion, byddwn yn:
- edrych ar ofynion mynediad gradd gwaith cymdeithasol
- sicrhau bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael y cerdyn gweithiwr gofal fel y gallant gael disgownt ar ddysgu gyrru
- parhau â'n trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am dreialu prentisiaethau gwaith cymdeithasol
- edrych ar wahanol ffyrdd i bobl ymuno â'r proffesiwn gwaith cymdeithasol
- gweithio gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr bod gwybodaeth gyson am y bwrsarïau a’r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol
- ceisio ei gwneud yn haws i fyfyrwyr wneud cais am y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol.
Rydym yn barod wedi sicrhau bod mwy o leoedd ar gael ar gyrsiau gwaith cymdeithasol cymwys y Brifysgol Agored yng Nghymru ar gyfer 2022 - 2023.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynyddu’r bwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol newydd sy’n dechrau ar eu hastudiaethau o fis Medi hwn ymlaen, yn rhannol fel ymateb i’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn.
Mae Gofalwn Cymru hefyd yn cynnal ymgyrch yn yr haf i ddangos bod gwaith cymdeithasol yn ddewis gyrfa gwerthfawr.
Darganfod mwy
I gael mwy o wybodaeth am ganlyniadau’r adroddiad neu i gael copi llawn o’r adroddiad, e-bostiwch: iwqueries@socialcare.wales.