Jump to content
Bwrsariaethau i gynyddu ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol sy’n dechrau eu hastudiaethau o fis Medi
Newyddion

Bwrsariaethau i gynyddu ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol sy’n dechrau eu hastudiaethau o fis Medi

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan wedi cyhoeddi y bore yma y bydd myfyrwyr gwaith cymdeithasol newydd, sy’n dechrau eu hastudiaethau o fis Medi ymlaen, yn derbyn bwrsariaethau llawer yn uwch.

Mae £3.5 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu trwy ein cynllun bwrsariaeth gwaith cymdeithasol i’r holl fyfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig newydd yng Nghymru sy’n dechrau eu hastudiaethau o flwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Mae’r cyllid ychwanegol yn golygu y bydd myfyrwyr is-raddedig newydd, sy’n dechrau eu gradd o fis Medi 2022, yn derbyn £11,250 (£3,750 y flwyddyn am dair blynedd). Tra y bydd myfyrwyr y Brifysgol Agored yn derbyn £7,500 (£3,750 y flwyddyn am ddwy flynedd).

Gall myfyrwyr ôl-raddedig newydd, sy’n dechrau eu hastudiaethau o fis Medi 2022, cael £25,430 (£12,715 y flwyddyn am ddwy flynedd).

Y cyhoeddiad hwn gan y Dirprwy Weinidog heddiw yw’r cam cyntaf i wella’r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu ac asesu’r opsiynau i roi’r un lefel o gymorth ariannol i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol â’u cymheiriaid iechyd.

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rwy’n falch iawn o weld mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru i’r sector gofal cymdeithasol ac yn benodol i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi rhoi tystiolaeth i alluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu’r fwrsariaeth i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.

“Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gwaith amhrisiadwy sy’n cael eu gwneud gan weithwyr cymdeithasol ar draws Cymru ac yn edrych ymlaen at weld mwy o fyfyrwyr yn ymuno â’r proffesiwn.

“Cyn bo hir, byddwn ni’n cyhoeddi cynllun y gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol sy’n nodi’r gweithrediadau y mae angen i ni eu cymryd gyda phartneriaid i gefnogi’r datblygiad a’r cymorth sydd ar gael i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru sy’n gweithio ym mhob cymuned yn ein gwlad.

“Mae gwella’r cynnig bwrsariaeth yn elfen allweddol o’r cynllun yma.”

Dysgwch fwy am y bwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr gofal cymdeithasol