Jump to content
Ymchwil a data gofal yn bwysig i wella bywydau pobl
Share
Newyddion

Ymchwil a data gofal yn bwysig i wella bywydau pobl

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Pan sefydlwyd Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2017, un o’r cyfrifoldebau a roddwyd i ni oedd pennu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i ofal cymdeithasol a chasglu data a fyddai’n ein helpu i ddiwallu anghenion pobl yn well.

Mae pwysigrwydd y gwaith hwn wedi’i atgyfnerthu gan Covid-19, sydd wedi dangos gwerth data wrth gynllunio gwasanaethau gofal a chymorth, a sut maent yn cael eu darparu i’r cyhoedd.

Mae yna borth data gofal cymdeithasol cenedlaethol i’w gael eisoes ar gyfer Cymru, sy’n rhoi data gofal cymdeithasol cyfredol sy’n cael ei gasglu fel mater o drefn mewn un lle.

Mae hyn yn helpu ymarferwyr i ddeall y galw am wasanaethau gofal a chymorth a beth sydd ar gael. Gall hefyd ddangos pa mor dda mae gwasanaethau’n cael eu darparu a’r canlyniadau i unigolion.

Rydym hefyd yn arwain ar ddatblygu dull mwy strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Mae’n ymrwymiad rydym yn ei rannu ag arweinwyr a sefydliadau ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae pawb am greu diwylliant cryf yng Nghymru o ddefnyddio data’n foesegol i wella cynlluniau a phenderfyniadau gofal i helpu i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau.

Fel rhan o’r gwaith i bennu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol, yn ddiweddar rydym ni wedi cyhoeddi canfyddiadau prosiect a oedd yn edrych ar y cwestiynau pwysig yr oedd pobl dros 65 oed eisiau atebion iddynt.

Datblygwyd yr astudiaeth hon gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn cydweithrediad â’r James Lind Alliance.

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol i bron 400 o bobl hŷn, gofalwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol: “beth yw’r ffordd orau i ni ddarparu gofal a chymorth cynaliadwy i helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus?”.

Dyma’r cwestiynau yr hoffent gael atebion iddynt:

  • ydy cynllunio gofal yn gynnar a/neu gyswllt cynnar neu reolaidd gan wasanaethau gofal cymdeithasol yn helpu i atal problemau ac yn arwain at well profiadau i bobl hŷn nag aros nes bod yna argyfwng?
  • sut gallwn ni leihau achosion o deimlo’n ynysig a straen ymysg gofalwyr pobl hŷn a’u hatal rhag cyrraedd y pwynt lle na allan nhw ymdopi mwyach?
  • sut gall gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, yn cynnwys y sector gwirfoddol, gydweithio’n fwy effeithiol i ddiwallu anghenion pobl hŷn?
  • sut mae modd teilwra gofal cymdeithasol i bobl hŷn yn ôl diddordebau ac anghenion unigolion, yn cynnwys sicrhau eu bod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal?
  • beth yw’r ffordd orau i ofal cymdeithasol gefnogi pobl hŷn ag anghenion cymhleth – y rhai sydd angen cymorth gan amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol?
  • sut mae modd ariannu gofal cymdeithasol i bobl hŷn mewn ffordd gynaliadwy?
  • pa rwystrau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau? Sut byddai modd hwyluso’r broses?
  • sut gellir gwella telerau ac amodau, yn cynnwys cyflogau, i staff sy’n darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn? A fydd hyn yn denu mwy o bobl i’r proffesiwn?
  • sut gellir sicrhau bod gofal cymdeithasol i bobl hŷn o ansawdd uchel yn gyson?
  • sut gall gofal cymdeithasol yn y cartref a’r gymuned helpu pobl hŷn i gymdeithasu, gan leihau unigedd a theimladau o fod yn ynysig?

Datblygiad diweddar arall yw’r astudiaeth gyntaf i ddefnyddio ein data gweithlu cofrestredig dienw ar gyfer prosiect ymchwil mawr. Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, bydd yr astudiaeth 18 mis yn edrych ar y risg mae Covid-19 yn ei hachosi i’r gweithwyr gofal sy’n cynorthwyo pobl yn eu cartref yng Nghymru.

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith ar ddata ac ymchwil gofal cymdeithasol, ewch i’n gwefan yn gofalcymdeithasol.cymru/ymchwil-a-data.