Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Wrecsam wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad adolygu canfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd.

Cafodd Rebecca White ei hatal rhag gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol gofrestredig yng Nghymru am 12 mis ar ôl i wrandawiad ym mis Rhagfyr 2020 ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Ms White wedi cyfnewid galwadau ffôn a negeseuon gyda chydweithiwr yr oedd mewn perthynas ag ef, rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019. Yn y galwadau a’r negeseuon hyn roedd y cydweithiwr yn rhannu ei awydd i gael rhyw gyda phlant ifanc.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Ms White wedi methu â dweud wrth ei chyflogwr am y negeseuon na’r galwadau ffôn, a dim ond oherwydd bod unigolyn arall wedi codi pryderon am bartner Ms White y daeth y wybodaeth i’r amlwg, a arweiniodd at ei arestio.

Yn gynharach yr wythnos hon, cynhaliwyd gwrandawiad dros Zoom i adolygu cynnydd Ms White ar ôl iddi gael ei hatal dros dro, ac i benderfynu a oedd ei haddasrwydd i ymarfer dal wedi’i amharu.

Ar ôl adolygu’r dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad nad oedd Ms White hyd yma’n deall yn llawn goblygiadau ei gweithredoedd, ac nad oedd hyn yn debygol o newid yn y dyfodol. Felly, penderfynodd y panel fod ei haddasrwydd i ymarfer dal wedi amharu ar hyn o bryd.

Wrth esbonio’r penderfyniad, dywedodd y panel wrth Ms White: “Pan ateboch gwestiynau [heddiw], gwelsom eich bod yn tueddu i roi’r un atebion dro ar ôl tro fel petaech wedi’u hymarfer yn hytrach na dangos unrhyw arwydd eich bod wedi ystyried eich ymddygiad, ac eich bod yn edifar. Ni wnaethoch gyfeirio at eich cyfrifoldeb personol ac eithrio pan ofynnwyd i chi’n uniongyrchol am hyn.”

Ychwanegodd y panel: “Er eich bod wedi ymgymryd â llawer o hyfforddiant cyffredinol, nid yw’r un o’r rhain yn mynd i’r afael â risgiau cam-drin rhywiol yn uniongyrchol. Nid oedd yr hyfforddiant wedi eich arfogi i ateb ein cwestiynau’n fyfyriol mewn ffordd a oedd yn dangos newid go iawn.

“Nid oedd eich tystiolaeth yn ein darbwyllo eich bod wedi deall yn iawn pa mor amhriodol oedd eich ymddygiad, nac eich bod wedi cydnabod ei ganlyniadau posibl. Rydym yn bryderus na fyddech yn cydnabod nac yn gweithredu i atal ymddygiad amhriodol gan rai eraill yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel dynnu enw Ms White oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Byddai angen i chi ddangos newid sylweddol iawn i gael eich rhoi mewn sefyllfa o ymddiriedaeth gyda chyfrifoldeb dros ddiogelu unigolion sy’n agored i niwed yn y dyfodol ac, felly, daethom i’r casgliad nad oedd yn briodol rhoi cyfnod pellach o atal dros dro ac adolygu.”

Ychwanegodd y panel: “Rydym wedi penderfynu bod angen i ni osod Gorchymyn Dileu er mwyn amddiffyn y cyhoedd ac, yn benodol, i gynnal hyder mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru.”