Jump to content
Roedd gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol yn ystod y pandemig, yn ôl adroddiad newydd
Newyddion

Roedd gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol yn ystod y pandemig, yn ôl adroddiad newydd

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad ymchwil newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn datgelu bod y gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi ddigon yn ystod pandemig Covid-19. Roedd hyn er gwaethaf ymgyrchoedd diolch a negeseuon gweinidogol o ddiolch.

Roeddent hefyd yn teimlo nad oedden nhw bob amser yn cael eu hystyried yn weithwyr proffesiynol, yn wahanol i bobl eraill sy’n gweithio gyda phlant, fel athrawon.

Nod yr adroddiad, Sgyrsiau Cenedlaethol gyda’r Sector Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru, yw cael gwell dealltwriaeth o brofiadau’r rheini sy’n gweithio yn y sectorau gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn ystod y pandemig.

Mae’r adroddiad yn edrych ar nifer o feysydd a effeithiodd ar y sector, gan gynnwys llesiant staff a morâl, y cymorth sydd ar gael i fusnesau, staffio, a hyfforddiant a chymwysterau. Mae hefyd yn ystyried anghenion y sector wrth symud ymlaen.

Mae’r adroddiad yn datgelu bod y sector yn teimlo nad oedd y cyfathrebu a gawsant yn ystod y pandemig bob amser yn glir ac nad oeddent bob amser yn teimlo bod eu lleisiau wedi cael eu clywed. Roedd cyfathrebu â’r sector yn aml, ond oherwydd y tirwedd Covid-19 a oedd yn newid yn barhaus, ni cafodd yr holl negeseuon eu clywed.

Er bod darparwyr dysgu wedi nodi problemau sylweddol gyda lleoliadau dysgwyr yn ystod y pandemig, dywedodd lleoliadau ar y cyfan bod y cyfleoedd dysgu a datblygu wedi bod yn gadarnhaol. Soniodd llawer o leoliadau a sefydliadau ymbarél am gynnydd yn y nifer a fanteisiodd ar ddysgu ar-lein ymhlith eu staff.

Dywedodd nifer o leoliadau wrth yr ymchwilwyr eu bod wedi cael rhywfaint o broblemau staffio a bod ganddynt bryderon ynghylch cynaliadwyedd. Serch hynny, roedd y rhan fwyaf yn canmol y cynllun ffyrlo a’r cymorth ariannol arall roedden nhw wedi’i gael i gynnal eu busnesau.

Roedd y rhan fwyaf wedi cael rhyw fath o gymorth busnes ac roedd lefel y gefnogaeth a oedd ar gael yn cael ei hystyried yn ddefnyddiol ac yn rhywbeth i’w groesawu. Ond roedd rhai yn teimlo bod y broses o wneud cais am gymorth yn faich.

Wrth edrych tua’r dyfodol, roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil yn obeithiol ac yn gadarnhaol ynghylch beth sydd o’u blaenau dros y chwe i’r 12 mis nesaf. Er hynny, roedd llawer yn awyddus i bwysleisio y byddent yn hoffi cael eu gweld fel gweithwyr proffesiynol fel rhannau eraill o’r gweithlu plant.

Gwnaeth yr adroddiad chwe argymhelliad i fynd i’r afael â’r canfyddiadau.

Un o’r prif argymhellion oedd yr angen i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweithlu chwarae a gwaith chwarae medrus, sy'n cael ei barchu'n fawr fel proffesiwn ac yn cael ei gydnabod am y rôl hanfodol mae’n ei chwarae yn cefnogi datblygiad plant.

Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell yn gryf y dylai’r sector gael cyfathrebu ac arweiniad mwy gweladwy a chlir wrth symud ymlaen.

Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, rydyn ni’n croesawu’r argymhellion a gyflwynwyd gan yr adroddiad ac rydyn ni nawr yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, CWLWM, Chwarae Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i fynd i’r afael â nhw.

Cafodd yr ymchwil, a gomisiynwyd gennym ni ar ran Llywodraeth Cymru, ei gynnal gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE). Bu ei ymchwilwyr yn siarad â mwy na 100 o ddarparwyr, gweithwyr gofal a sefydliadau ymbarél rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2021.

Lawrlwythwch Sgyrsiau Cenedlaethol gyda’r Sector Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru