Jump to content
Cyhoeddi prif ganfyddiadau o’r monitro diwedd flwyddyn 2023 i 2024 ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP)
Newyddion

Cyhoeddi prif ganfyddiadau o’r monitro diwedd flwyddyn 2023 i 2024 ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP)

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r Grant Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) yn raglen grant hir-sefydlog i gefnogi hyfforddiant a datblygu’r gweithlu ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi’r adroddiad themau a chanfyddiadau cenedlaethol o sut y buddsoddwyd y grant SCWWDP gan y rhanbarthau yn 2023 i 2024.

Prif ganfyddiadau 2023 i 2024 yw:

  • yn gyffredinol, mae’r cyfanswm gwariant ar SCWWDP wedi cynyddu 1.8 y cant (£219,086), o £12,475,258 i £12,694,344
  • roedd y cyfanswm gwariant yn cynnwys:
    • £7,640,051 o’r grant SCWWDP
    • 30 y cant o gyllid cyfatebol (£3,274,308) a gyfrannwyd gan bob awdurdod lleol
    • £1,779,985 o gyllid awdurdod lleol ychwanegol (yn ychwanegol at 30 y cant o gyllid cyfatebol)
  • roedd cynnydd o 9.2 y cant yn y gwariant ar staff sy’n darparu dysgu a datblygu uniongyrchol
  • bu bron i hanner yr awdurdodau lleol (45.5 y cant) weld cynnydd mewn presenoldeb hyfforddiant ar draws y sector.

Yn 2023 i 2024 bu i’r grant SCWWDP:

  • gefnogi rhaglenni dysgu a datblygu ym mhob un o’r saith rhanbarth yng Nghymru, gyda thuedd barhaus o ddarpariaeth ar lefel leol
  • gefnogi 1,889 o ddysgwyr cymwysterau galwedigaethol, cynnydd o 3.3 y cant ers y llynedd
  • gefnogi 1,356 o bobl ar hyfforddiant cymhwyso gwaith cymdeithasol, cynnydd o 15.9 y cant ers y llynedd
  • gefnogi 996 o bobl gyda hyfforddiant ôl-gymhwyso mewn gwaith cymdeithasol, cynnydd o 16.8 y cant ers y llynedd
  • gefnogi 448 o bobl gyda dyfarniadau arbenigol ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol, er enghraifft ymarfer galluogi, asesydd budd gorau a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP). Roedd hyn yn gynnydd o 15.2 y cant ers y llynedd
  • ddarparu 135,169 o leoedd hyfforddi gyda phresenoldeb o 82.8 y cant
  • helpu i gynyddu presenoldeb mewn hyfforddiant gwasanaethau ehangach megis iechyd, yr heddlu, addysg, gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr. Roedd hyn yn gynnydd o 28.2 y cant ers y llynedd.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr, “Rydyn ni am i’r gweithlu gofal cymdeithasol gael ei ysgogi, ei ymgysylltu a'i werthfawrogi, gyda’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl Cymru.

“Y gweithlu gofal cymdeithasol yw ased mwyaf y sector ac mae datblygu'r gweithlu yn rhan annatod o sicrhau y gall pobl ragori yn eu rolau presennol ond hefyd fod yn barod ar gyfer y dyfodol.

“Bob blwyddyn rydyn ni’n dosbarthu tua £7 miliwn o gyllid i gefnogi datblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol yn rhanbarthol. Mae awdurdodau lleol yn darparu cyllid cyfatebol i’r grant, sy’n cael ei ddefnyddio i gefnogi hyfforddiant a gweithgarwch datblygu'r gweithlu yn eu sefydliadau eu hunain ac ar gyfer darparwyr yn y sector annibynnol a gwirfoddol.

“Mae ystod eang o gymorth ar gael ac mae'r cyfleoedd dysgu a datblygu a ariennir drwy SCWWDP wedi'u teilwra i anghenion lleol y gweithlu ar draws y sector ym mhob rhanbarth ac yn cael ei oruchwylio gan bartneriaeth traws-sector.

“Rydyn ni’n falch o gyhoeddi'r themâu a'r canfyddiadau cenedlaethol o ddefnydd rhanbarthol y grant SCWWDP yn 2023 i 2024. Dim ond un ffynhonnell ariannu yw SCWWDP i gefnogi datblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal â SCWWDP, mae datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei gefnogi gan gyllid ychwanegol gan awdurdodau lleol, buddsoddiad a wneir gan ddarparwyr y sector preifat a'r trydydd sector ac hefyd grant gofal cymdeithasol a gweithlu Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol.

“Rydyn ni’n bwriadu archwilio sut y gallwn ni greu darlun manylach a llawnach yn y dyfodol gydag awdurdodau lleol, rhanbarthau a Llywodraeth Cymru. I ddarganfod mwy am y cyfleoedd datblygu gweithlu a dysgu sydd ar gael i'r gweithlu gofal cymdeithasol, rydyn ni’n eich annog i gysylltu â thimau datblygu'r gweithlu yn eich ardal leol."

Darganfyddwch fwy

Darllenwch y crynodeb gweithredol, neu lawrlwythwch yr adroddiad llawn.

Gweler manylion cyswllt timau datblygu’r gweithlu yn eich ardal leol.