Jump to content
Mae eich llesiant yn bwysig: caniatâd i flaenoriaethu’ch hun
Newyddion

Mae eich llesiant yn bwysig: caniatâd i flaenoriaethu’ch hun

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol neu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.  

Rydyn ni’n eich annog yn arbennig i fynychu os ydych chi fel arfer yn gweithio ar eich pen eich hun, neu'n teimlo'n unig yn eich penderfyniadau. 

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar ddulliau i’ch helpu i wneud y canlynol:

  • deall straen a gorbryder  
  • codi'ch hwyliau  
  • bod yn fwy gwydn
  • gwella llesiant. 

Dyddiadau

Rydyn ni’n cynnal y sesiwn hon ar sawl dyddiad. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu. 

  • 6.30pm i 7pm, 14 Gorffennaf
  • 6.30pm i 7pm, 11 Awst
  • 6.30pm i 7pm, 8 Medi.