Jump to content
Gofal cymdeithasol – y gwahaniaeth mae’n ei wneud
Newyddion

Gofal cymdeithasol – y gwahaniaeth mae’n ei wneud

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Mae’r ffordd mae gofal cymdeithasol wedi ymateb i’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig ydyw o ran rhoi cymorth ymarferol i bobl yn ogystal â’u helpu i fod yn ddiogel ac yn annibynnol.

Felly, mae’n braf gweld bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn un o’r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechlyn Covid. Bydd hyn yn cefnogi llesiant y gweithlu ac yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i unigolion agored i niwed.

Drwy gefnogi pobl o bob oedran, mae gweithwyr cymdeithasol yn defnyddio’u harbenigedd i helpu a diogelu’r rheini a allai fod mewn perygl o niwed yn sgil rhianta neu ofal gwael. Maen nhw hefyd yn cefnogi’r rheini ohonom ni a all fod angen cymorth ychwanegol i aros yn annibynnol a byw’n dda gyda phroblem iechyd corfforol neu feddyliol, neu anabledd.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen sy’n darparu cymorth mewn cartrefi gofal neu yng nghartrefi pobl yn gymwys i ddarparu gofal urddasol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn aml gyda chydweithwyr iechyd, aelodau o’r teulu a sefydliadau yn y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Yn ôl data diweddaraf ONS, mae gofal cymdeithasol rheng flaen wedi bod yn un o’r galwedigaethau â’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil Covid ymysg dynion a menywod yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw tystiolaeth wrth benderfynu ar flaenoriaethau. Mae gwleidyddion yn defnyddio arbenigedd gwyddonwyr sy’n adolygu data Covid bob dydd i lywio’r camau nesaf i leihau effaith y pandemig.

Mae'r GIG yn elwa o fuddsoddiad sylweddol mewn treialon clinigol i asesu pa gyffur neu driniaeth sydd orau ar gyfer problemau iechyd penodol, gan gynnwys buddsoddiadau diweddar i ddatblygu brechlyn.

I’r gwrthwyneb, mae buddsoddi mewn ymchwil i ymyriadau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn dechrau ar sylfaen gymharol isel. Er hyn, rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n debygol iawn y bydd cynnydd yn y galw am gymorth gofal cymdeithasol ar ôl y pandemig, ymhell ar ôl i’r GIG wneud ei waith gwych yn trin pobl.

Bydd llawer o bobl yn wynebu cyfnod o wella o ‘Covid hir’, ynghyd ag effeithiau emosiynol ynysu cymdeithasol, colli swyddi, llai o incwm a phwysau teuluol. Bydd y rhain i gyd yn cynyddu’r galw am ofal cymdeithasol. Rydyn ni eisoes yn gweld mwy o atgyfeiriadau, ar adeg pan mae’r cyllidebau’n gwbl rwymedig a’r gweithlu’n fregus ac yn flinedig yn sgil effaith Covid.

Felly, mae’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o'r arferion a'r ymyriadau sy’n gweithio orau, ynghyd â chydnabod nad yw dull ‘un ateb i bawb’ yn debygol o ddiwallu anghenion pob unigolyn.

Dyna pam ein bod ni’n gweithio ar hyn o bryd gydag amrywiaeth o bartneriaid i weithredu strategaeth ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae gennym weledigaeth i Gymru fod yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei hymchwil wych ym maes gofal cymdeithasol, ac i’r ymchwil hon gael ei defnyddio i gefnogi pobl Cymru. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy lywio a gwella polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc.

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar gynnwys y cyhoedd, blaenoriaethau ymchwil, defnyddio data, datblygu’r gweithlu, a chyfathrebu a defnyddio ymchwil.

Bydd fy erthygl nesaf yn rhoi rhagor o fanylion am y strategaeth ymchwil. Yn y cyfamser, os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan mewn ymchwil i’r maes gofal cymdeithasol, cysylltwch â gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.