Jump to content
Er anrhydedd y sector gofal cymdeithasol – myfyrdodau personol
Newyddion

Er anrhydedd y sector gofal cymdeithasol – myfyrdodau personol

| Sue Evans OBE, ein Prif Weithredwr

Roeddwn i wrth fy modd bod OBE wedi’i ddyfarnu i mi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin am “wasanaethau i ofal cymdeithasol”, ac roeddwn i’n falch o dderbyn yr anrhydedd ar ran y sector a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rwy wedi bod yn Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru ers 2016, gan helpu sefydlu’r corff, a lansiodd yn 2017, ac adeiladu ar sylfeini cadarn Cyngor Gofal Cymru.

Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint i mi gael gweithio gyda’r sector gofal cymdeithasol ers y 1990au cynnar, pan ddrafftiais y bennod ar ofal cymdeithasol i gynllun strategol Awdurdod Iechyd Gwent.

Fe wnaeth fy mhrofiad o fod yn ofalwr di-dâl i’m gŵr, a ddatblygodd MS yn gynnar yn ystod ein priodas, roi golwg agos i mi o rôl y GIG a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol wrth ofalu amdanom a’n cefnogi ni yn ystod ein hadegau mwyaf bregus.

Ar ôl nifer o rolau ar draws y GIG a llywodraeth leol, canolbwyntiais yn y pen draw ar weithio ym maes gofal cymdeithasol a thai.

Mae’r profiadau personol a phroffesiynol hyn wedi dangos i mi’r rôl amhrisiadwy y mae gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol yn ei chwarae wrth rymuso, cefnogi a diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion ym mhob cwr o Gymru.

Bu’n dda gweld statws a phroffesiynoldeb gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu codi trwy gofrestru gyda ni ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Cyflog Byw Gwirioneddol, ynghyd â’r uchelgais i ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol.

I mi, mae gofal cymdeithasol yn angen, yn union fel gofal meddygol, nyrsio neu therapiwtig, ac mae’r sylw prin yn y cyfryngau i ofal cymdeithasol, o gymharu â rhestri aros y GIG, yn fy ngwneud i’n rhwystredig yn aml. Mae rhestri aros mewn gofal cymdeithasol hefyd, sy’n golygu bod pobl agored i niwed yn aros am gymorth.

Mae’r holl dystiolaeth o ffynonellau academaidd dibynadwy yn amlinellu’r angen am fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol o ansawdd da i helpu cadw mwy o bobl yn annibynnol ac allan o’r ysbyty. Gyda mynediad hawdd at ofal cymdeithasol, gall pobl gael eu rhyddhau yn gynt ac yn fwy diogel ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.

Yng Nghymru, bu cynnydd cyson yn nifer y plant sy’n cael llety neu ofal gan y wladwriaeth, lle ceir risg o esgeulustod neu niwed. Mae effaith tlodi wedi chwarae ei rhan mewn teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd blaenoriaethu anghenion eu plant.

Rydyn ni’n gwybod bod rhai gwasanaethau ataliol wedi cael eu cwtogi oherwydd toriadau cyllidebol. Er gwaethaf hyn, mae rhai awdurdodau lleol yn gweld canlyniadau cadarnhaol trwy arweinyddiaeth gadarn a chyson ac ymagwedd tymor hwy at fuddsoddi mewn cymorth i deuluoedd.

Dros y blynyddoedd, mae wedi bod yn hyfryd gweld gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol yn helpu pobl i wella eu bywyd trwy: fod yn gyfaill i leihau unigrwydd, darparu gofal personol i sicrhau urddas a pharch, eu cefnogi’n weithgar i ddysgu, ennill arian a chymdeithasu, a diogelu’r bobl sydd angen cael eu hamddiffyn.

Gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn ein cymunedau, yn darparu mwy o ofal a chymorth na’r GIG a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd. Hebddyn nhw, byddai ein hanwyliaid yn cael eu hesgeuluso neu bydden nhw mewn perygl o golli eu hurddas a’u hannibyniaeth.

Dyma fy ngholofn olaf i’r Western Mail gan fy mod yn ymddeol yn nes ymlaen yn y mis ar ôl mwy na 32 o flynyddoedd yn y sector cyhoeddus. Felly, wrth fyfyrio ar fy ngyrfa, rwy’n talu teyrnged i’r sector gofal cymdeithasol, y gweithlu cyflogedig a di-dâl, eu rheolwyr a’u harweinwyr.

Hefyd, rwy’n talu teyrnged i staff a Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac i fy mhartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn olaf, hoffwn ddymuno’n dda iawn i Sarah McCarty, y Prif Weithredwr nesaf, ac rwy’n gwybod y bydd hi’n llwyddiannus ac yn mynd â’r sefydliad ymlaen i sefyllfa well fyth.

Mae wir wedi bod yn fraint ac rwy’n gwybod bod fy llwyddiant i diolch i bobl wych sydd wedi cefnogi f’ymdrechion.