Jump to content
Cyfres Cipolwg ar y Gweithlu – crynodebau sy’n amlygu llais gweithwyr gofal cymdeithasol
Newyddion

Cyfres Cipolwg ar y Gweithlu – crynodebau sy’n amlygu llais gweithwyr gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi creu ein casgliad blynyddol cyntaf o grynodebau ysgrifenedig sy'n crynhoi a thynnu sylw at wybodaeth allweddol am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni wedi defnyddio ein hymchwil ein hunain, sydd wedi ei gynnal neu gomisiynu gennym ni, i greu Cyfres Cipolwg y Gweithlu. Mae’r ymchwil a ddefnyddwyd yn y gyfres yn tynnu ynghyd prif ganfyddiadau sy'n gysylltiedig â'r gweithlu.

Bwriad y casgliad yw helpu llunwyr polisi, cyflogwyr a phartneriaid gynllunio ar gyfer y dyfodol, a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch atyniad, recriwtio a chadw mewn gofal cymdeithasol. Mae’r casgliad yn defnyddio gwybodaeth a roddwyd i ni yn ein harolwg blynyddol o’r gweithlu. Maent hefyd wedi eu cefnogi gan ddata o ffynonellau eraill, er mwyn gallu canolbwyntio ar brofiadau sydd wirioneddol bwysig i'r gweithlu.

I gefnogi ein strategaeth Gweithlu 2024 i 2027, archwilwyd dwy ardal er mwyn cefnogi gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach.

Mae’r gyfres gyntaf yn edrych ar:

Mae’r ddau grynodeb yn archwilio'r canfyddiadau yn fanylach, gan helpu i lywio a darparu tystiolaeth i helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae telerau ac amodau da yn bwysig i lesiant gweithwyr. Gall amodau gwaith gwael hefyd effeithio ar gyfraddau cadw staff ac ar ddenu a recriwtio i’r sector. Fel rhan o’n casgliad cyntaf, rydyn ni wedi defnyddio gwybodaeth o’n gwaith ymchwil i ddarganfod sut mae pobl yn teimlo am weithio mewn gofal cymdeithasol.

Mae ein canfyddiadau wedi eu grwpio i edrych ar brif themau; gan gynnwys boddhad mewn swydd, cyflog ac ad-daliad, a manteision cyflogaeth.

*Dangosodd ein harolwg gweithlu yn 2023 fod y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol (57 y cant) a rheolwyr gofal cymdeithasol (68 y cant) yn fodlon â’u swydd bresennol. Ond roedd hefyd yn tynnu sylw at yr heriau o gadw gweithlu profiadol a chymwys. Dywedodd dros chwarter yr holl weithwyr cofrestredig eu bod yn disgwyl gadael y sector gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis nesaf, ac roedd 44 y cant yn disgwyl gadael yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Gwerthfawrogi gwaith gofal cymdeithasol

Yn ein harolwg y gweithlu, gofynnwyd i bobl sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol i ba raddau roedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gweld a’u gwerthfawrogi.

*Mae’r sector yn cyflogi amcangyfrif o 84,134 o bobl yng Nghymru. Yn y boblogaeth gyffredinol, mae cefnogaeth gref i’r gweithlu gofal cymdeithasol gyda 72 y cant yn tueddu i gytuno neu gytuno’n gryf â’r datganiad ‘Mae gennyf hyder mewn pobl sy’n gweithio ym maes gofal’. Mae’r rhif hwn mewn cyferbyniad i’r hyn a ddywedodd y bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wrthym am sut maen nhw’n meddwl y mae pobl eraill yn eu gweld. Codwyd pryder gan rai gofalwyr cymdeithasol am ddylanwad y wasg ar farn y cyhoedd, gan nodi fod y proffesiwn yn cael ei feirniadu’n annheg, ac yn galw i’r cyfryngau roi darlun mwy cytbwys o’r gwaith.

Mae ein cyfres yn edrych ar y rhesymau tu ôl i sut mae’r gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym hefyd yn edrych ar effaith ganlyniadol y ffactorau hyn ar ddenu, recriwtio a chadw staff.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu:

“Er mwyn helpu i wneud newid cadarnhaol a pharhaol i ofal cymdeithasol, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar lais y rhai sy'n darparu'r gwasanaeth. Rydyn ni wedi defnyddio data a gwaith ymchwil ein hunain i greu Cyfres Cipolwg ar y Gweithlu. Mae’r gyfres yn archwilio prif themau a’r pynciau sydd yn effeithio ac o bwys i ofalwyr cymdeithasol yng Nghymru.

“Mae Cyfres Cipolwg ar y Gweithlu yn cefnogi amcanion ein strategaeth Gweithlu, a’n huchelgais i sicrhau bod gweithlu gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’i cefnogi ble bynnag maent yn gweithio. Gall llunwyr polisi, cyflogwyr a phartneriaid ddefnyddio'r crynodebau fel rhan o'u tystiolaeth i ystyried a gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol.”

Rhwng Mawrth a Mai 2023, gofynnwyd i weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni gymryd rhan yn yr arolwg 'Dweud eich Dweud'.

Ynghyd ag ymchwil annibynnol a gynhaliwyd a chomisiynwyd gennym ni, defnyddiwyd y wybodaeth hon i greu ein casgliad blynyddol cyntaf o Gyfres Cipolwg ar y Gweithlu.

Gellir darllen casgliad llawn Cyfres Cipolwg y Gweithlu ar ein gwefan y Grŵp Gwybodaeth.

Cyfeiriadau

* Gofal Cymdeithasol Cymru (2023a) Arolwg peilot o’r gweithlu – Adroddiad cyffredinol o’r canfyddiadau

** Gofal Cymdeithasol Cymru (2022) Adroddiad casgliad data’r gweithlu, 2022.

*** Gofal Cymdeithasol Cymru (2023b) Arolwg o Farn y Cyhoedd. Heb ei gyhoeddi

**** ORS (2023) Agency workers’ motivations. Heb ei gyhoeddi.