Jump to content
Adroddiad newydd yn canfod gwahaniaethu yn erbyn gweithlu Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Adroddiad newydd yn canfod gwahaniaethu yn erbyn gweithlu Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG) gofal cymdeithasol.

Mae Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn helpu i fonitro profiad pobl Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn gam a gymerwyd o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, sy'n disgrifio'r uchelgais o wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae’r adroddiad cyntaf yn dangos bod pobl Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn ffurfio un o bob pump o staff gofal cymdeithasol. Ond, o'i gymharu â'u cyfoedion Gwyn, mae'r cydweithwyr hyn yn llai tebygol o gael eu penodi i swyddi uwch, ac yn fwy tebygol o gael eu cyfeirio at addasrwydd i ymarfer. Mae cydweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol hefyd yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu a cham-drin gan y bobl maen nhw'n gofalu amdanynt a'u teuluoedd, eu cydweithwyr a'u rheolwyr.

Roedd 56,475 o staff gofal cymdeithasol wedi eu cofrestru yng Nghymru yn 2024. Mae’r adroddiad yn dibynnu ar y data yma, ynghyd â chanfyddiadau ‘Dweud Eich Dweud’, ein harolwg y gweithlu blynyddol.


Mae’r adroddiad wedi canfod:

  • er gwaethaf yr awydd i geisio dilyniant gyrfa, mae staff gofal cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol wedi'u tangynrychioli mewn swyddi rheoli
  • fod staff Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o adrodd diffyg hyfforddiant ychwanegol i gefnogi dilyniant gyrfa o'i gymharu â'u cymheiriaid Gwyn
  • fod gweithwyr cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn fwy tebygol na'u cyfoedion Gwyn i adrodd eu bod yn profi gwahaniaethu.


Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Mae hiliaeth yn, a bydd bob amser, yn annerbyniol. Mae staff gofal cymdeithasol yn ymuno â'r proffesiwn i helpu, cefnogi a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau unigolion. Gan weithio ym mhob cymuned yng Nghymru, mae unigolion sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn darparu rôl hanfodol i gefnogi unigolion a theuluoedd i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

“Mae'r gweithlu wedi ymrwymo i helpu pobl ac mae ganddynt hawl sylfaenol i gael eu trin â pharch, ond mae llawer yn dweud wrthym nad ydyn nhw'n cael eu trin yn deg. Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn nodi meysydd y mae angen i Ofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, partneriaid a chyflogwyr weithredu.

“Un o'r meysydd a nodwyd yn yr adroddiad oedd anghydraddoldeb mewn datblygiad arweinyddiaeth. Rydyn ni wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn trwy weithio gydag unigolion sydd â phrofiad byw i ddatblygu rhaglen newydd. Bydd 'rhaglen cefnogi dilyniant ar gyfer gweithwyr ethnig lleiafrifol ' yn dechrau yn yr hydref.”

Gan mai hwn yw'r adroddiad cyntaf, bydd y set ddata hon yn cael ei defnyddio fel llinell sylfaen ar gyfer gwaith y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Anton Emmanuel, Arweinydd Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn Llywodraeth Cymru: “Dylai'r data sbarduno sefydliadau, byrddau partneriaeth ranbarthol, ac awdurdodau lleol i adolygu'r prosesau gwahaniaethol sy'n caniatáu i'r anghydraddoldeb yma barhau.

“Trwy gymryd camau wedi'u targedu er mwyn mynd i'r afael â'r meysydd sydd wedi ei amlygu gan y data yn yr adroddiad hwn, gallwn wella profiadau'r gweithlu Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. O ganlyniad, bydd hyn wedyn yn golygu gwell gofal i bobl Cymru.”

Cefnogi dilyniant i weithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol mewn gofal cymdeithasol

Rydyn ni wedi datblygu rhaglen dilyniant gyrfa i weithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. Bydd y rhaglen newydd yma am ddim, ac yn dechrau yn hydref 2025. Gall cyflogwyr enwebu staff Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sydd eisiau datblygu eu sgiliau arweinyddol i ymuno yn yr hyfforddiant.

Nod y rhaglen 12 mis yw grymuso gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y sector gofal cymdeithasol. Mae'r sesiynau yn helpu i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, yn cynnig sesiynau mentora, a chyfleoedd i gysgodi uwch arweinwyr.

I enwebu eich cwmni fel safle peilot i ymuno â'r fenter newydd, neu i gael fwy o wybodaeth, cysylltwch â: leadership.development@socialcare.wales.