Mae adroddiad newydd sy’n edrych ar brofiadau myfyrwyr ar gyrsiau gwaith cymdeithasol a reoleiddir, yn dangos i ni sut y gallwn sicrhau ansawdd cyrsiau gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Comisiynwyd ‘The Institute of Public Care’ ym Mhrifysgol Oxford Brookes i ymchwilio i farn myfyrwyr ar gyrsiau a reoleiddir, a chynnig awgrymiadau i ni ar y camau y gallwn ni eu cymryd nesaf i wella eu profiad.
Roedd 57 o fyfyrwyr a chynrychiolwyr o naw prifysgol, a naw o fyfyrwyr ôl-radd, wedi cymryd rhan yn yr ymchwil.
Mae cyrsiau gwaith cymdeithasol a reoleiddir yn cynnwys:
- cyrsiau gradd ac ôl-radd mewn gwaith cymdeithasol
- cyrsiau Cadarnhau
- cyrsiau Addysgwr Ymarfer (sy’n cael eu hadnabod hefyd fel ‘Galluogi Ymarfer’)
- a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC).
Y prif ganfyddiadau:
prifysgolion:
- mae gan fwyafrif y cyrsiau brosesau i gael adborth gan fyfyrwyr, ac maen nhw yn deall ei bod yn bwysig gwrando ar fyfyrwyr ar wahanol adegau yn ystod y cwrs
- mae tiwtoriaid yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant
- hoffai’r darparwyr dysgu wella’r cyfleoedd i gyfathrebu’r ‘ddwy ffordd’ gyda myfyrwyr.
addysgwyr ymarfer:
- y brif ffordd y mae addysgwyr ymarfer yn annog ac yn gwrando ar adborth myfyrwyr yw drwy oruchwyliaeth broffesiynol ac adfyfyriol. Mae’r oruchwyliaeth hon yn cael ei defnyddio fel fforwm i rannu adborth gan bobl sy’n cael gofal a chymorth
- roedd hybu llais myfyrwyr yn aml yn cael ei adnabod fel rôl yr addysgwyr ymarfer.
myfyrwyr:
- y dulliau mwyaf cyffredin o hybu a chofnodi llais myfyrwyr yw drwy fforymau cynrychioli myfyrwyr, grwpiau cymorth drwy diwtorialau, rhith-sesiynau galw heibio am gymorth, a gwerthusiadau modiwlau
- mae’r ffaith fod cymaint o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r myfyrwyr yn ystod y broses gofrestru yn gallu gwneud i fyfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu llethu gan y cwricwlwm
- mae angen sefydlu systemau i hwyluso’r broses o glywed gan fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig.