Jump to content
Modiwlau hyfforddi a chyrsiau ar gyfer gweithwyr gofal

Mae llawer o ddarparwyr yn darparu hyfforddiant ar-lein oherwydd heriau gweithredol wrth ddarparu hyfforddiant wyneb yn wyneb. Yma fe welwch ddeunyddiau ac adnoddau hyfforddi ar-lein ar wahanol bynciau. Lle bo modd, rydym wedi ceisio eich cyfeirio at rannau mwyaf perthnasol yr hyn a allai fod yn adnodd ehangach.

Pa adnoddau hyfforddi sydd ar gael

Mae rhai awdurdodau lleol wedi sicrhau bod eu hyfforddiant ar gael ar-lein i unrhyw un yng Nghymru ei gweld.

Mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau, mae Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi datblygu canllaw cyflym ar gyfer cefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia. Mae'r canllaw wedi'i anelu at bobl sy'n newydd i ofalu neu wedi'u hadleoli o feysydd eraill. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer sefydlu neu i weithwyr ddarllen yn eu hamser eu hunain.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn partneriaeth â Rhoda Emlyn-Jones o Achieving Sustainable Change, wedi datblygu adnoddau fideo i’ch helpu chi i gynnal sgyrsiau “beth sy’n bwysig” gyda phobl sydd efallai angen gofal a chymorth. Mae’r fideos wedi’u hanelu at weithwyr gofal cymdeithasol, gwirfoddolwyr, neu bobl sydd wedi’u hadleoli i weithio mewn maes gwahanol am gyfnod.

Er mwyn cynnal sgwrs am “yr hyn sy’n bwysig” mae angen sgiliau penodol i weithio gyda pherson i ddeall eu sefyllfa, eu llesiant cyfredol a beth y gellir ei wneud i’w helpu nhw i wneud y gorau o’u llesiant a chynyddu eu cadernid.

Pan fyddwn yn cael sgwrs am “yr hyn sy’n bwysig” mae’n helpu ni i ganolbwyntio ar beth sy’n dod â’r fantais fwyaf i unigolyn ac sy’n eu cefnogi i fyw bywyd ystyrlon a bodlon.

Mae’r fideo gyntaf, Dechreuad Da, yn helpu ni i feddwl am strwythur ein sgwrs gyntaf gyda rhywun. Mae’r rhyngweithio cychwynnol hwn yn gosod y llwyfan ar gyfer sut rydym yn gweithio gyda phobl er mwyn adeiladu perthnasau positif.

Mae’r ail fideo, sef Gweithio gyda Phobl, yn ein helpu ni i feddwl am arddull y sgyrsiau rydym yn parhau i gynnal gyda’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Mae’r trydydd fideo, sef Diweddglo Da, yn helpu ni i roi cynlluniau mewn lle ar gyfer yr amser pan na fydd pobl angen ein cefnogaeth bellach, a sut gallwn sicrhau ein bod yn gadael pobl mewn sefyllfa well wrth i ni ddod â’n rhyngweithiadau i ben.

Mae’r pedwerydd fideo, Pam rydyn ni’n cynnal sgyrsiau’n seiliedig ar Gryfderau’n rhoi trosolwg o pam rydyn ni’n canolbwyntio ar “beth sy’n bwysig” i bobl. Mae’n esbonio’r pwyslais o fewn deddfwriaeth Gymreig ar wella llesiant pobl trwy ganolbwyntio ar eu canlyniadau personol.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu modiwl ar Ymdrin â cholled, marwolaeth a marw fel rhan o'u cwrs Ymarferydd Gofalu a Thosturiol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r modiwl ar gael o dan yr adran Resilient Practitioner.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW)wedi lansio modiwl hyfforddiant ymwybyddiaeth meddyginiaeth ar-lein sydd ar gael ar ei gwefan.

Mae hyfforddiant gweinyddu meddyginiaeth ar-lein byr newydd nawr ar gael ar wefan Fferyllfa HEIW.

Dyluniwyd yr hyfforddiant hwn yn benodol ar gyfer gweithwyr gofal cartref efallai bydd gofyn iddnt roi meddyginiaeth oherwydd pwysau Covid-19, neu sydd bellach yn rhoi pecynnau gwreiddiol yn hytrach na phecynnau pothell. Mae rhestr wirio gweinyddol hefyd ar gael i ysgogi gweinyddiaeth ddiogel gan weithwyr, gofal a dylai rheolwyr ei defnyddio i sicrhau cymhwysedd unigolion. Gall fferyllwyr gyhoeddi taflenni Cofnodion Gweinyddu Meddyginiaeth wrth ddosbarthu meddyginiaeth mewn pecynnau gwreiddiol i annog a chefnogi gweithwyr gofal i gynnal cofnodion cyflawn a chywir.

Mae Learning@ Wales yn blatfform dysgu cenedlaethol GIG Cymru sy'n cynnig ystod eang o gyrsiau am ddim ar gael i gefnogi staff, yn enwedig yn ystod yr achosion o Covid. Mae'r cyrsiau allweddol sydd ar gael yn cynnwys:

  • Arsylwi Sylfaenol (ee, pwysedd gwaed, curiad y galon, dirlawnder ocsigen)
  • Rheoli Heintiau ac Atal
  • Diogelu Oedolion a Phlant
  • Diddymu Marwolaeth

Er mwyn cyrchu'r adnoddau hyn bydd angen i chi greu cyfrif i gael arweiniad ar sut i wneud hyn, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Dysgu Digidol ar elearning@wales.nhs.uk.

Mae gan UNSAIN Cymru brosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) sy’n gweithio mewn partneriaeth â’i ganghennau UNSAIN, cyflogwyr ac undebau llafur eraill mewn gweithleoedd ledled Cymru. Gyda'i gilydd maent yn trefnu ac yn ariannu cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb, gweithdai a gweithgareddau dysgu eraill. Gall gweithwyr gofal cymdeithasol fanteisio ar y cyfleoedd dysgu hyn yma.

Mae gan y Brifysgol Agored dros 100 o gyrsiau sy'n cwmpasu ystod o feysydd yn rhad ag am ddim. Gellir dod o hyd i bynciau sy'n berthnasol i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn yr adran Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg ac maent yn cynnwys plant a phobl ifanc, iechyd meddwl, anableddau dysgu a dementia.

Mae technoleg ddigidol yn fwy pwysig heddiw nag erioed o’r blaen - mae Covid-19 wedi creu cymhelliant i ddefnyddio gwahanol ffyrdd o gyfathrebu'n gyflymach nag y gallem fod wedi'i ddychmygu'n bosibl.Gall yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael fod yn ddryslyd i ni i gyd, yn enwedig i'r rhai sy'n anghyfarwydd â thechnoleg ddigidol. Mae WhatsApp, Zoom, Skype a Facebook yn rhai o'r llwyfannau niferus sy'n cael eu defnyddio.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn rhoi amrywiaeth o gefnogaeth trwy sesiynau ‘galw heibio’ digidol a siop un stop ar gyfer adnoddau ar-lein yn ystod Covid-19. Mae’r rhain yn cynnwys canllawiau hawdd i ddilyn ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol a chysylltiadau â llawer o adnoddau a chefnogaeth addysgol am ddim.

Mae City and Guilds wedi cyhoeddi adnoddau dysgu fel rhan o'r cymwysterau newydd ar gyfer Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (a lansiwyd yn 2019). Efallai y bydd rhai modiwlau yn addas ar gyfer sefydlu a DPP yn ystod argyfwng Covid-19.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 22 Ebrill 2020
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (42.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch