Jump to content
Telerau ac Amodau

Ein telerau ac amodau

Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n rheoli'r gwefannau socialcare.wales a gofalcymdeithasol.cymru.

Rydyn ni hefyd yn rhedeg ac yn gofalu am safleoedd cysylltiedig eraill i chi eu defnyddio a’u gwylio yn y gwaith ac yn bersonol. Drwy fynd i’n safleoedd a’u defnyddio, rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau hyn, sy’n dod i rym o’r dyddiad rydych chi’n eu defnyddio am y tro cyntaf.

Gwefannau eraill Gofal Cymdeithasol Cymru

Cofrestru i ddefnyddio ein safleoedd

Bydd angen i chi gofrestru i ddefnyddio gwasanaethau ar rai o’n gwefannau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Dolenni i’n gwefannau

Does dim rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â’n tudalennau gwe ac rydyn ni’n fodlon i chi gysylltu â gwybodaeth sy’n cael ei gynnal ar ein safle.

Ond ni ddylech lwytho ein tudalennau gwe i fframiau ar eich safle oherwydd dylai ein tudalennau gwe lwytho i ffenestr gyfan defnyddiwr.

Os hoffech chi gynnwys ein tudalennau gwe mewn safle porthol, cysylltwch â’n tîm marchnata a chyfathrebu communications@socialcare.wales.

Bydd angen i chi roi eich enw, eich cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, disgrifiad o’ch safle porthol, a dweud wrthym pam eich bod am gynnwys ein tudalennau gwe ar eich safle porthol.

Dolenni ar ein gwefannau

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw ddolenni i wefannau sydd ar ein gwefannau ni.

Er bod dolenni sy’n cysylltu â gwefannau, cynnyrch neu wasanaethau trydydd parti ar ein gwefannau, nid yw’n golygu ein bod yn eu cymeradwyo mewn unrhyw ffordd.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn bob amser yn gweithio, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros sicrhau bod y tudalennau rydyn ni’n cysylltu â nhw ar gael.

Rydyn ni’n gwirio'r dolenni ar ein gwefannau yn rheolaidd, ac yn dileu neu'n trwsio unrhyw ddolenni rydyn ni’n dod ar eu traws sydd wedi torri.

Nid ydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i'r gwefannau hyn
  • unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o'ch defnydd o'r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw.

Rydych yn cytuno i'n rhyddhau o unrhyw hawliadau neu anghydfodau a allai ddeillio o ddefnyddio'r gwefannau hyn.

Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddwyr terfynol sy'n berthnasol i'r gwefannau hyn cyn i chi eu defnyddio.

Eiddo deallusol

Ni sy'n berchen ar yr enwau, y delweddau a'r logos sy'n dynodi Gofal Cymdeithasol Cymru, Gofalwn Cymru, y Gwobrau a'r wobr Gofalu trwy'r Gymraeg.

Ni ddylech gopïo na defnyddio ein logos nac unrhyw logos trydydd parti rydych yn cael mynediad atynt o'n safleoedd heb ein cymeradwyaeth ni fel perchennog yr hawlfraint.

I ofyn am gael defnyddio ein logos, cysylltwch â'n tîm marchnata a chyfathrebu drwy anfon neges e-bost i communications@socialcare.wales.

Ceisiadau i dynnu cynnwys

Gallwch ofyn i ni dynnu cynnwys oddi ar ein gwefannau. Byddwn yn tynnu cynnwys:

  • i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data sy'n ymwneud â hawliau a rhyddid pobl
  • os yw'n torri cyfreithiau hawlfraint, yn cynnwys data personol sensitif neu ddeunydd a allai gael ei ystyried yn anweddus neu'n ddifrïol.

I ofyn i ni dynnu cynnwys, cysylltwch â'n tîm marchnata a chyfathrebu drwy anfon neges e-bost i communications@socialcare.wales.

Bydd angen i chi anfon cyfeiriad gwe’r cynnwys dan sylw atom (URL) ac egluro pam rydych chi’n meddwl y dylid ei ddileu. Byddwn yn ateb i roi gwybod i chi os byddwn yn ei dynnu.

Rydyn ni’n dileu cynnwys yn ôl ein disgresiwn mewn trafodaeth â'r tîm neu'r sefydliad sy'n gyfrifol amdano. Gallwch ddal wneud cais am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data.

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

Diogelu rhag firysau

Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau ar bob cam o'r broses gynhyrchu. Dylech redeg rhaglen wrthfeirysau ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lwytho i lawr oddi ar y Rhyngrwyd.

Does dim modd i ni dderbyn cyfrifoldeb am ddata sy’n mynd ar goll, yn cael ei amharu arno neu’n cael ei ddifrodi, nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur wrth i chi ddefnyddio deunydd sy’n dod o’n gwefannau.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Wrth ddefnyddio ein gwefannau, rhaid i chi beidio â chyflwyno feirysau nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol.

Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i'n gwefannau, y gweinyddion y maent wedi'u storio arnynt nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â nhw.

Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefannau mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau atal gwasanaeth.

Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw ymosodiadau neu ymdrechion i gael mynediad heb awdurdod at ein gwefannau i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi â nhw.

Ymwadiad

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddiweddaru ein gwefannau, ni allwn sicrhau, gwarantu na darparu unrhyw amodau y bydd yr wybodaeth rydyn ni’n ei chynnal: (sef cynnwys, cynnyrch neu wasanaethau trydydd parti):

  • yn gyfredol
  • yn ddiogel
  • yn gywir
  • yn gyflawn
  • yn rhydd o fygs neu firysau.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o ddefnyddio ein gwefannau. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamwri sifil, tor contract neu fel arall
  • defnyddio ein gwefannau ac unrhyw ddolenni ar ein gwefannau neu dolenni i’n gwefannau
  • anallu i ddefnyddio ein gwefannau ac unrhyw ddolenni ar ein gwefannau neu dolenni i’n gwefannau.

Mae hyn yn berthnasol os oedd modd rhagweld y golled neu'r difrod, os oedd wedi digwydd yn nhrefn arferol pethau neu os oeddech chi wedi rhoi gwybod i ni y gallai hynny ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys colli’r canlynol (ond nid yw wedi’i gyfyngu i):

  • refeniw incwm
  • cyflog, buddion neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractau
  • cyfleoedd
  • arbedion disgwyliedig
  • data
  • ewyllys da neu enw da
  • eiddo diriaethol
  • eiddo anniriaethol, gan gynnwys colli, llygru neu ddifrodi data neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • gwastraffu amser rheoli neu amser yn y swyddfa.

Efallai y byddwn yn dal i fod yn atebol am y canlynol:

  • marwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu dan gyfraith berthnasol.

Newidiadau i'r telerau ac amodau hyn

Gwiriwch y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru ar unrhyw adeg.

Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio ein gwefannau ar ôl i’r telerau ac amodau gael eu diweddaru.

Mae'r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy'n ymwneud â'r telerau ac amodau hyn dan awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.

Fel corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi datblygu ein telerau ac amodau yn seiliedig ar y telerau a’r amodau ar GOV.UK a LLYW.CYMRU.

Cynnwys cysylltiedig