Jump to content
Sioe deithiol cymorth i gyflogwyr
Digwyddiad

Sioe deithiol cymorth i gyflogwyr

Dyddiad
10 Mawrth 2026, 9.50am i 1.15pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch a ni i glywed mwy am yr ystod o wasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae'r sesiwn yma ar gyfer cyflogwyr gweithwyr cofrestredig gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.

Cynnwys y sesiwn

Dewch i glywed am y gwasanaethau, y cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i chi gan gynnwys:

  • ein ‘cynnig i gyflogwyr’ a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • gwrth-hiliaeth ym maes gofal cymdeithasol gyda’r Athro Charlotte Williams OBE, FLSW, sy’n cael ei chydnabod yn eang am ei chyfraniadau at ddiwygio addysgol a diwylliannol yng Nghymru.
  • modiwlau e-ddysgu ar wrth-hiliaeth a HIV – sy’n tynnu sylw at rai o’r adnoddau sydd gennym i helpu cyflogwyr i fod yn wrth-wahaniaethol.
  • cefnogi’r Gymraeg yn eich gweithle – Rydym wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i ddysgu mwy am bwysigrwydd y Gymraeg a’i diwylliant, gweithio’n ddwyieithog, a gwneud y cynnig rhagweithiol.
  • Age Cymru – Cyfle i edrych ar y pecyn cymorth i gefnogi llesiant preswylwyr a’r ymgyrch ‘Drws agored, bywydau cysylltiedig’
  • 'Mae eich llesiant yn bwysig' - Caniatâd i flaenoriaethu eich hun Cyflwyno'r syniad o roi ein hunain yn flaenoriaeth fel y gallwn fod yn effeithiol yn ein rolau gwaith. Bydd gwybodaeth am sesiynau sy'n cael eu cynnig gennym a manylion cyswllt am gymorth sydd ar gael i bobl sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol.

“Roedd yn gyfle da iawn i drafod yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu gydag eraill sy'n gweithio yn y sector, ac i weld bod gwelliannau'n cael eu gwneud”

“Mae’r holl bynciau wedi bod yn ddefnyddiol ac rwyf wedi gallu dysgu pwyntiau gweithredu a’u rhoi ar waith yn y gweithle”.