Jump to content
Rhwydwaith dyfodol gwaith cymdeithasol: creu amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr ar leoliad a gweithwyr cymdeithasol sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd
Digwyddiad

Rhwydwaith dyfodol gwaith cymdeithasol: creu amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr ar leoliad a gweithwyr cymdeithasol sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd

Dyddiad
3 Mawrth 2026, 10am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae creu amgylchedd cefnogol i weithwyr cymdeithasol yn hanfodol i greu gweithlu cynaliadwy, cynnal gwasanaethau o safon uchel ac atal diffygiad.

Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n ystyried sut i ddarparu cefnogaeth effeithiol i fyfyrwyr a gweithwyr cymdeithasol sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy’n cefnogi myfyrwyr ar leoliad a gweithwyr cymdeithasol sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n trafod:

  • heriau wrth ddarparu cefnogaeth effeithiol a chyson i fyfyrwyr a gweithwyr cymdeithasol sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd
  • gweithio’n hybrid mewn ffordd effeithiol
  • creu lle saff i dderbyn a darparu cymorth
  • tystiolaeth ac enghreifftiau o sut mae creu amgylchedd cefnogol
  • amser i feddwl a rhannu eich meddyliau, profiadau a syniadau.

Bydd ein rheolwr llesiant Kate Newman yn arwain y sesiwn hon.