Jump to content
Gwneud y Cynnig Rhagweithiol - Ble ddylwn i ddechrau?
Digwyddiad

Gwneud y Cynnig Rhagweithiol - Ble ddylwn i ddechrau?

Dyddiad
27 Ionawr 2026, 10am i 1pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Cymraeg yn perthyn i ni i gyd ac mae ychydig o Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth mawr. Yn y sesiwn hon byddwch chi’n clywed am yr hyn sydd angen i chi ei wneud a’r adnoddau sydd ar gael i’ch cefnogi chi i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i siaradwyr Cymraeg ac i wneud y cynnig rhagweithiol.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer cyflogwyr gweithwyr cofrestredig gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.

Cynnwys y sesiwn

Ymunwch â ni i:

  • Ddeall pwysigrwydd y ‘cynnig rhagweithiol’
  • Ddeall pa adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael i’ch helpu chi
  • Wrando ar eraill sydd wedi manteisio ar ein cefnogaeth a’r effaith y mae wedi cael yn eu gwasanaeth
  • Gymryd rhan mewn trafodaethau i rannu eich profiadau, heriau a chyfleoedd
  • Siarad â thiwtoriaid sydd yno i’ch helpu chi
  • Feddwl am eich camau nesaf.

“Mae’r peilot wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi’r daith Gymraeg yn Elm gyda chyflwyniad i hyfforddiant Cymraeg ar-lein wedi cynyddu sgiliau iaith staff gan 84%”

“Mae’r profiad hwn wedi dangos i ni pa mor bwerus y gall iaith fod wrth gyfathrebu, wrth feithrin cydberthnasau a chadw hunaniaeth ddiwylliannol”.