Jump to content
Gweithdy i reolwyr: pŵer ymlyniad
Digwyddiad

Gweithdy i reolwyr: pŵer ymlyniad

Dyddiad
9 Rhagfyr 2025, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Vikki Curtis fydd yn arwain y sesiwn hon. Vikki yw Athrawes Cynghorol Dechrau’n Deg ym Mlaenau Gwent a’r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer First Friends.

Mae Vikki yn angerddol am helpu plant i lwyddo trwy adeiladu perthnasau cryf ac ystyrlon. Mi fydd Vikki’n rhannu ei gwaith yn dathlu pŵer ymlyniad.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio yn sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwch yn:

  • trafod sut gall ffocysu ar ymlyniad drawsffurfio’r ffordd rydyn ni’n gweithio gyda phlant ifanc
  • dysgu sut gall adeiladu perthnasau cryf helpu plant i deimlo’n saff i archwilio, dysgu a thyfu
  • clywed am astudiaeth achos First Friends, sy’n dathlu pŵer ymlyniad
  • darganfod syniadau ymarferol, enghreifftiau o fywyd go iawn a llawer o ysbrydoliaeth.