Mae’r gweithdy hwn yn gyfle i ddysgu sut i gefnogi eich iechyd meddwl chi â’ch tîm.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol neu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn, byddwch yn dysgu technegau newydd er mwyn adeiladu pecyn cymorth i’ch helpu i wella’ch llesiant chi a’ch tîm.
Byddwch yn dysgu am:
- lleihau pwysau
- cefnogi pobl i fod yn fwy gwydn
- rheoleiddio emosiynau
- amddiffyn eich llesiant
- amddiffyn llesiant eich tîm
- deall beth sy'n achosi straen yn y gwaith a sut mae'n ein effeithio ni
- adnabod pan mae rhywun yn brwydro gyda’i iechyd meddwl
- sut i gael sgwrs am iechyd meddwl.