Jump to content
Cyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru – helpwch ni i lywio dyfodol cyflogau gweithwyr
Digwyddiad

Cyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru – helpwch ni i lywio dyfodol cyflogau gweithwyr

Dyddiad
24 Chwefror 2026 i 26 Chwefror 2026, 10am i 4.30pm
Lleoliad
Ar-lein

Mae'r Institute of Public Care (IPC) ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn cynnal ymchwil ar ein rhan, fel rhan o'n gwaith gyda Fforwm Cyflog Teg Gofal Cymdeithasol, i ddeall sut mae cyflog, recriwtio a chadw staff yn edrych o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Hoffem glywed gennych chi - unai mewn grŵp ffocws neu drwy ein harolwg - i'n helpu i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd yn y sector.

Dysgwch fwy am yr ymchwil a beth fydd yn digwydd yn y grwpiau ffocws.

Grwpiau ffocws

Mae IPC yn cynnal chwech grŵp ffocws. Archebwch eich lle yn y grŵp sydd fwyaf perthnasol i chi.

  • Dydd Mawrth 24 Chwefror, 10am i 11.30am: Sefydliadau'r sector annibynnol a gwirfoddol
  • Dydd Mawrth 24 Chwefror, 3pm i 4.30pm: Cyflogwyr awdurdodau lleol
  • Dydd Mercher 25 Chwefror, 10am i 11.30am: Cyflogwyr awdurdodau lleol
  • Dydd Mercher 25 Chwefror, 3pm i 4.30pm: Sefydliadau'r sector annibynnol a gwirfoddol
  • Dydd Iau 26 Chwefror, 10am i 11.30am: Sefydliadau'r sector annibynnol a gwirfoddol
  • Dydd Iau 26 Chwefror, 3pm i 4.30pm: Grŵp ffocws Cymraeg ar gyfer pob lleoliad.

Archebwch eich lle

Arolwg ar-lein

Os na allwch fynychu grŵp ffocws, cwblhewch ein harolwg byr ar-lein am gyflog gweithwyr gofal a heriau'r gweithlu. Dim ond ychydig funudau y bydd yn eu cymryd, a bydd eich ymatebion yn helpu i lywio ein hargymhellion.