Jump to content
Cyfres gweithdy: pecyn cymorth iechyd meddwl a llesiant
Digwyddiad

Cyfres gweithdy: pecyn cymorth iechyd meddwl a llesiant

Dyddiad
26 Tachwedd 2025 i 17 Rhagfyr 2025, 10am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Cortecs

Bydd y gyfres hon yn eich helpu i ychwanegu amrywiaeth o dechnegau i’ch pecyn cymorth iechyd meddwl.

Ar gyfer pwy mae’r gyfres hon

Mae’r gyfres hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol neu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y gyfres

Dros bedair sesiwn, byddwch yn dysgu technegau newydd er mwyn adeiladu pecyn cymorth i’ch helpu i wella’ch llesiant.

Byddwch yn dysgu am:

  • lleihau pwysau
  • cefnogi eich hun i fod yn fwy gwydn
  • rheoleiddio eich emosiynau
  • amddiffyn eich llesiant.

Dyddiadau

Mae angen mynychu pob un o’r pedair sesiwn i wir fuddio o'r gyfres.

  • Dydd Mawrth 26 Tachwedd
  • Dydd Mawrth 3 Rhagfyr
  • Dydd Mawrth 10 Rhagfyr
  • Dydd Mawrth 17 Rhagfyr.