Bydd y cyfres gweithdy hwn yn helpu pobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol i ddefnyddio gwerthuso i wella dysgu ac i ddangos effaith eu gwaith yn well. Mae croeso i chi fynychu pob sesiwn, neu ddewis y rhai sydd o ddiddordeb i chi.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r cyfres gweithdy hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’n ddelfrydol i unigolion sy’n gweithio mewn meysydd fel rheoli prosiectau, perfformiad a gwella, ymchwil a datblygiad, effaith ac ariannu.
Cynnwys y sesiwn
Rydyn ni’n gwybod y gall gwerthuso fod yn frawychus. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod gan bobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol lawer o'r sgiliau a'r wybodaeth ond yn aml nid oes ganddyn nhw’r hyder i'w cymhwyso.
Byddwn ni’n canolbwyntio ar sut y gallwch ddatblygu meddylfryd gwerthuso a chynnal eich ymarfer gwerthuso eich hun i'ch helpu i ddal record o’ch dysgu ar gyfer gwelliant parhaus, yn ogystal â mesur eich effaith.
Byddwn hefyd yn trafod rhai o'r heriau a'r anawsterau cyffredin sy'n codi yn ystod gwerthusiadau. A byddwn yn archwilio offer a thechnegau defnyddiol, gyda digon o gyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu profiadau.
Dyddiadau
- Dad-dirgelu gwerthuso: 10am i hanner dydd, 17 Hydref
- Defnyddio stori newid i fesur effaith: 10am i hanner dydd, 24 Hydref
- Moeseg a gwerthuso: 10am i hanner dydd, 7 Tachwedd
- Cyflwyniad i werthuso economaidd: 10am i hanner dydd, 21 Tachwedd
- Creadigrwydd a chyfranogiad mewn gwerthuso: 10am i hanner dydd, 5 Rhagfyr.