Jump to content
Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (y Cod Gweithwyr) sy'n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2026.

Lawrlwytho'r Cod

Mae'r wybodaeth ar y dudalen yma hefyd ar gael ar ffurf PDF gallwch ei lawrlwytho.

Beth ydy'r Cod a sut caiff ei ddefnyddio?

Gofalwr yn cefnogi dyn sy'n gwysgo clustffonau ac sy'n gwenu

Mae’r Cod Gweithwyr yn rhestr o ddatganiadau sy’n disgrifio’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy’n ofynnol ymhlith pobl a gyflogir yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Cod yn chwarae rhan allweddol mewn codi ymwybyddiaeth o’r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan y proffesiwn.

Mae’r Cod hwn yn disodli’r Cod a gyhoeddwyd yn 2018. Mae’n gliriach ac yn fyrrach, gyda mwy o ffocws ar wrth-wahaniaethu. Fodd bynnag, nid oes unrhyw newid i ymarfer.

Mae’n weithredol o 1 Gorffennaf 2026.

Y Cod a’r Gofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol

Rydyn ni’n cynnal Cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol (y Gofrestr).

Mae pawb ar y Gofrestr wedi cytuno i gadw at y safonau a nodir yn y Cod. Byddwn ni’n ystyried y Cod wrth ystyried achosion o addasrwydd i ymarfer a phenderfyniadau ynghylch a ddylai gweithiwr cofrestredig aros ar y Gofrestr, neu cael eu tynnu oddi arno.

Canllawiau ymarfer

Rydyn ni’n cyhoeddi canllawiau ymarfer i gyd-fynd â’r Cod. Mae’r canllawiau yn offeryn ymarferol sy’n cynorthwyo gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu hymarfer, ac yn helpu i gyfrannu at ganlyniadau da ar gyfer pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Hefyd, mae’n bosib y bydd y canllawiau ymarfer yn cael eu defnyddio i ddangos methiant i gynnal y safonau yn y Cod. Dylai unigolion cofrestredig sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r canllawiau ymarfer sy’n berthnasol i’w rôl.

Y Cod a’r gweithlu gofal cymdeithasol ehangach

Mae’n ofynnol i weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â’r Cod, ond mae’r Cod hefyd yn berthnasol i weithwyr gofal cymdeithasol nad ydynt yn cofrestru gyda ni. Mae hyn oherwydd ei fod yn gosod safonau clir ar gyfer yr ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Beth mae’r Cod yn ei olygu i:

Weithwyr gofal cymdeithasol

Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn gweithio yn ôl y safonau yn y Cod. Rhaid i chi sicrhau nad yw eich ymddygiad ac ymarfer yn disgyn islaw’r safonau, a ni ddylech chi niweidio llesiant unigolion.

Fe’ch anogir i ddefnyddio’r Cod i archwilio eich ymddygiad ac ymarfer eich hun ac i chwilio am feysydd lle gallwch chi wella.

Unigolion sy’n defnyddio gofal a chymorth, a’r cyhoedd

Bydd y Cod yn eich helpu i ddeall sut y dylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn tuag atoch a sut y dylai cyflogwyr eu helpu i wneud eu gwaith yn dda.

Cyflogwyr

Disgwylir i chi hybu’r defnydd o’r Cod a’i gymryd i ystyriaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch ymddygiad ac ymarfer eich staff.

Y Cod

Mae saith adran i’r Cod.

Adran 1

Rhaid i mi barchu safbwyntiau a dymuniadau unigolion, eu gofalwyr a fy nghydweithwyr, a chefnogi eu hawliau a’u buddiannau.

Rhaid i mi:

1.1 gweithio gydag unigolion a rhoi cymorth iddyn nhw mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a pharchu eu hurddas, eu preifatrwydd, eu crefydd, eu credoau a’u diwylliant

1.2 parchu, cefnogi a hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a pheidio â gwahaniaethu yn erbyn unigolion, gofalwyr, cyd-weithwyr na phobl eraill

1.3 herio a/neu roi gwybod am unrhyw wahaniaethu, ac amddiffyn hawliau unigolion, eu gofalwyr, eu teuluoedd a fy nghyd-weithwyr

1.4 helpu unigolion a gofalwyr i fynegi eu barn a’u dewisiadau.

Adran 2

Rhaid i mi wneud beth y gallaf i sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.

Rhaid i mi:

2.1 bod yn onest ac yn ddibynadwy

2.2 cyfathrebu mewn ffordd briodol, agored, glir ac ystyrlon

2.3 parchu gwybodaeth gyfrinachol a dim ond cael mynediad ato a’i ddefnyddio i gyflawni fy rôl

2.4 peidio â chamddefnyddio ymddiriedaeth unigolion a gofalwyr, na’r mynediad sydd gennyf at eu gwybodaeth bersonol, eu heiddo, eu cartref na’u gweithle

2.5 esbonio polisïau ynghylch cyfrinachedd, derbyn rhoddion a ffiniau proffesiynol yn glir i unigolion, teuluoedd a gofalwyr, a dilyn y rhain bob amser

2.6 bod yn ddibynadwy, gan wneud yr hyn y cytunir arno. Os na allaf wneud hyn, rhaid i mi esbonio pam i unigolion a gofalwyr

2.7 cydnabod a bod yn agored pan fydd fy muddiannau personol yn effeithio ar fy ngwaith, a chymryd camau i sicrhau nad ydyn nhw’n dylanwadu ar fy marn na fy ymarfer proffesiynol.

Adran 3

Rhaid i mi hybu llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, a’u helpu i gadw’n ddiogel.

Rhaid i mi:

3.1 gweithio gydag unigolion a rhoi cymorth iddyn nhw mewn ffyrdd sy’n hybu eu llesiant a’u diogelwch

3.2 helpu unigolion a gofalwyr i godi pryderon neu gwyno, a chymryd eu cwynion o ddifrif, gan ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol

3.3 gweithio gydag unigolion a rhoi cymorth iddyn nhw mewn ffyrdd sy’n cynyddu eu gallu i wneud penderfyniadau a’u rheolaeth dros eu bywyd eu hunain

3.4 gweithio gyda chyd-weithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i hybu llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, gan ddefnyddio systemau, polisïau a gweithdrefnau y cytunir arnynt i rannu gwybodaeth lle bo’n briodol

3.5 herio neu roi gwybod am bryderon, fel ymddygiad neu ymarfer anniogel neu beryglus, neu sy’n cam-drin, yn camfanteisio neu’n gwahaniaethu.

Adran 4

Rhaid i mi barchu hawliau unigolion i gymryd risgiau, gan weithio gyda nhw i’w helpu i reoli a deall risgiau ymddygiad a allai achosi niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill.

Rhaid i mi:

4.1 gweithio gydag unigolion a gofalwyr i gydbwyso risgiau â’u hawliau a’u dewisiadau personol

4.2 dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu perthnasol wrth weithio gydag unigolion a gofalwyr

4.3 dilyn polisïau a gweithdrefnau asesu risg i asesu a yw ymddygiad unigolion a gofalwyr yn peri risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill

4.4 cymryd camau hanfodol i leihau’r risg y bydd ymddygiad unigolion a gofalwyr yn achosi niwed iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill

4.5 codi ac, os oes angen, uwchgyfeirio unrhyw bryderon sydd gennyf am ddiogelwch unigolion, neu am lefel y gofal y mae pobl yn ei dderbyn yn fy ngweithle neu mewn unrhyw leoliad arall

4.6 rhannu gwybodaeth os ydw i’n meddwl y gallai rhywun fod mewn perygl o niwed, gan ddilyn y gofynion diogelu data.

Adran 5

Rhaid i mi ymddwyn gydag uniondeb ac mewn ffordd sy’n cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol – yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Rhaid i mi:

5.1 peidio â cham-drin, esgeuluso, niweidio, manteisio na chamfanteisio ar unigolion, gofalwyr na chyd-weithwyr

5.2 cynnal ffiniau proffesiynol â chyd-weithwyr, unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr bob amser

5.3 peidio â meithrin perthynas bersonol amhriodol â chyd-weithwyr, unigolion, eu teuluoedd na’u gofalwyr

5.4 rhoi gwybod i fy nghyflogwr am unrhyw faterion a allai achosi gwrthdaro rhwng buddiannau a chymryd camau i sicrhau nad ydynt yn dylanwadu ar fy ymarfer

5.5 peidio â thorri’r gyfraith a deall y byddai gwneud hynny yn gallu cwestiynu fy addasrwydd i ymarfer

5.6 rhoi gwybod i fy nghyflogwr ac i Gofal Cymdeithasol Cymru os byddaf yn cael fy arestio neu fy nghyhuddo o drosedd

5.7 osgoi achosi risg ddiangen i fi fy hun ac i bobl eraill

5.8 peidio ag ymddwyn mewn ffordd a allai gwestiynu fy addasrwydd i ymarfer yn y proffesiwn gofal cymdeithasol, a hynny yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Adran 6

Rhaid i mi fod yn atebol ac yn gyfrifol am safon fy ngwaith ac am gynnal a gwella fy ngwybodaeth a fy sgiliau.

Rhaid i mi:

6.1 darllen, deall a dilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau ymarfer ac ymddygiad perthnasol

6.2 gweithio mewn ffordd ddiogel ac effeithiol bob amser, a dilyn y gyfraith

6.3 cadw cofnodion clir a chywir, gan ddefnyddio systemau a phrosesau y cytunir arnynt

6.4 rhoi gwybod i fy nghyflogwr neu i gyd-weithiwr arall sy’n meddu ar y profiad a’r cymwysterau addas am unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar fy ngallu i wneud fy swydd yn ddigonol ac yn ddiogel

6.5 gofyn am gymorth gan fy nghyflogwr neu gyd-weithiwr arall sy’n meddu ar y profiad a’r cymwysterau addas, os nad ydw i’n gallu cyflawni unrhyw agwedd o fy ngwaith neu’n ansicr sut mae gwneud hynny

6.6 bod yn agored ac yn onest gyda phobl os bydd pethau’n mynd o chwith, gan roi esboniad llawn a phrydlon

6.7 chwilio am gyfleoedd dysgu a datblygu perthnasol a’u cyflawni i gynnal a gwella fy ngwybodaeth a fy sgiliau i sicrhau fy mod yn addas i ymarfer

6.8 cymryd rhan weithredol ac effeithiol mewn goruchwyliaeth i fyfyrio ar fy ymarfer a chyfleoedd i wella fy ngwybodaeth a fy sgiliau

6.9 gweithio’n agored ac ar y cyd â chyd-weithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, gan roi cymorth iddyn nhw os gallaf

6.10 deall fy mod yn gyfrifol am waith rydw i’n ei ddirprwyo i eraill

6.11 cydweithredu ag ymchwiliadau i fy ymarfer, neu i ymarfer pobl eraill, a gynhelir gan fy nghyflogwr, Gofal Cymdeithasol Cymru neu unrhyw gorff priodol arall.

Adran 7

Os ydw i’n gyfrifol am reoli neu arwain staff, rhaid i mi hefyd wreiddio’r Cod yn eu gwaith nhw.

Mae’r adran hon yn berthnasol i unrhyw reolwyr neu arweinwyr gweithwyr gofal cymdeithasol. Os nad ydych chi’n rheolwr neu’n arweinydd, dylech ddarllen hyn beth bynnag er mwyn deall beth i’w ddisgwyl gan eich rheolwyr a’ch arweinwyr.

Rhaid i mi:

7.1 cefnogi diwylliant agored, diogel a chynhwysol lle gall staff godi pryderon a chael mynediad at arfer gorau, ei drafod, myfyrio arno a’i rannu

7.2 gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod am y Cod ac yn deall sut mae’n berthnasol i’w hymddygiad a’u hymarfer

7.3 gwneud yn siŵr bod cyfleoedd cynefino, hyfforddi, dysgu a datblygu yn helpu staff i gynnal a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth

7.4 darparu goruchwyliaeth ac arfarniad effeithiol i arwain, cefnogi a chymell staff i gyflawni cyfrifoldebau eu rôl, yn ogystal â’r hyn maen nhw’n atebol amdano

7.5 gwneud yn siŵr fy mod yn gwybod beth sy’n digwydd o ran darparu gofal cymdeithasol, fel adolygu cwynion ac adborth, neu fonitro perfformiad staff

7.6 ymateb i unrhyw bryderon neu gwynion yn brydlon ac yn effeithiol, gan ddilyn unrhyw bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.

Canllawiau ymarfer

Mae'r canllawiau ymarfer yn cynnwys gwybodaeth i'ch helpu i ddefnyddio'r Cod yn eich gwaith o ddydd i ddydd.