Jump to content
Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol

Mae'r dudalen yma'n cynnwys gwybodaeth am y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol (y Cod i Gyflogwyr) sy'n dod i rym 1 Gorffennaf 2026.

Lawrtlwytho'r Cod

Mae'r wybodaeth ar y dudalen we yma hefyd ar gael ar ffurf dogfen PDF gallwch chi ei lawrlwytho.

Beth ydy'r Cod i Gyflogwyr a sut caiff ei ddefnyddio?

Bachgen yn ei arddegau mewn cadair olwyn yn yr ardd ar ddiwrnod heulog

Cyhoeddir y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol (Cod y Cyflogwyr) gan Gofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 112 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (y Ddeddf).

Mae’n rhestr o ddatganiadau sy’n disgrifio’r safonau a ddisgwylir gan gyflogwyr gofal cymdeithasol. Mae’r Cod i gyflogwyr yn canolbwyntio ar y safonau sy’n ofynnol gan gyflogwyr i sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol diogel, medrus sy’n cael ei gefnogi’n briodol. Nid ei fwriad yw darparu ar gyfer pob sefyllfa neu bob agwedd o gyfrifoldeb cyflogwyr.

Rhaid i gyflogwyr hefyd fodloni amrywiaeth o ofynion eraill sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, rheoliadau statudol a chanllawiau.

Mae’r Cod hwn i gyflogwyr yn disodli’r Cod Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd yn 2018.

Mae’r Cod hwn i gyflogwyr yn berthnasol o 1 Gorffennaf 2026.

Sut defnyddir y Cod i gyflogwyr wrth reoleiddio

Ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio* o dan Ran 1 o Ddeddf 2016, mae’r rheoliadau gwasanaeth o ran Gofynion ar Ddarparwyr Gwasanaeth mewn Staffio yn nodi’r canlynol:

Rhaid i'r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer o ran y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan bersonau sy'n cyflogi neu sy'n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'n ofynnol i Gofal Cymdeithasol Cymru gyhoeddi’r safonau hyn o dan adran 112(1) (b) o'r Ddeddf.

Gall Arolygiaeth Gofal Cymru gymryd camau os na fydd darparwyr yn cydymffurfio â’r rheoliadau hyn.

Hefyd, o dan yr adrannau canlynol o’r Ddeddf, gall Gofal Cymdeithasol Cymru roi cyngor i gyflogwyr:

  • Adran 69 – Caiff Gofal cymdeithasol Cymru roi cyngor i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaeth gofal a chymorth neu unrhyw gymorth arall (gan gynnwys grantiau) at ddiben annog gwelliant yn y ddarpariaeth o'r gwasanaeth hwnnw;
  • Adran 126 – yn dilyn ymchwiliad addasrwydd i ymarfer sy’n ymwneud â pherson cofrestredig nad yw wedi’i atgyfeirio ar gyfer gwrandawiad gan banel addasrwydd i ymarfer, caiff Gofal Cymdeithasol Cymru roi cyngor i unrhyw berson sy’n rhan o’r ymchwiliad mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â’r ymchwiliad;
  • Adran 137 – pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu nad oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, caiff y panel roi cyngor i unrhyw berson sy’n ymwneud â’r achos ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r honiad yn erbyn y person cofrestredig neu’r wybodaeth a arweiniodd at yr achos.
Gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio

* Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio yn cynnwys:

  • gwasanaeth cartref gofal
  • gwasanaeth llety diogel
  • gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd
  • gwasanaeth mabwysiadu
  • gwasanaeth maethu
  • gwasanaeth lleoli oedolion
  • gwasanaeth eirioli neu wasanaeth cymorth cartref
  • gwasanaeth preswyl ysgolion arbennig.

Pwy sy’n ‘weithiwr gofal cymdeithasol’?

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn rheoli neu’n darparu gofal a chymorth mewn cysylltiad â gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys:

  • gweithwyr gofal a chymorth
  • rheolwyr gofal cymdeithasol
  • gweithwyr cymdeithasol
  • myfyrwyr gwaith cymdeithasol
  • Unigolion Cyfrifol sydd wedi’u dynodi gan ddarparwyr gwasanaethau, arolygwyr AGC, gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd sydd wedi cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae gwybodaeth am y rhestr gweithwyr gofal cymdeithasol ar gael yma.

Gall y rhestr o weithwyr gofal cymdeithasol newid dros amser.

I bwy y mae’r Cod i gyflogwyr yn berthnasol?

Mae’r Cod i gyflogwyr yn berthnasol i bobl sy’n cyflogi neu’n bwriadu cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol fel y diffinnir gan Ddeddf.

Gan nad yw gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yn cael eu cyflogi (maen nhw’n cael eu contractio gan rieni), nid yw’r Cod i gyflogwr yn berthnasol yn ffurfiol. Fodd bynnag, gan fod y Cod i gyflogwyr yn cynrychioli arferion da, mae disgwyl y byddai gwarchodwyr plant sy’n cyflogi cynorthwywyr ac ymarferwyr gofal plant yn ei ddefnyddio i ategu safon 13 o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, staffio.

Y Cod i Gyflogwyr

Mae’r pum adran i’r Cod.

Adran 1

Gwneud yn siŵr bod pobl sydd am ymuno â’r gweithlu gofal cymdeithasol yn addas a’u bod yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau.

Rhaid i gyflogwyr:

1.1 gwneud yn siŵr mai dim ond pobl â’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd cywir, pobl â photensial a phobl sy’n meddu ar unrhyw gymwysterau neu gofrestriad proffesiynol gofynnol sy’n ymuno â’r gweithlu, a hynny drwy ddefnyddio polisïau a phrosesau recriwtio trwyadl

1.2 archwilio cofnodion troseddol, cofrestrau perthnasol, cyfeiriadau gan gyflogwyr blaenorol, unrhyw fylchau mewn hanes cyflogaeth a hawl gyfreithiol i weithio yng Nghymru cyn penodi rhywun i weithio ym maes gofal cymdeithasol

1.3 cael gafael ar gyfeiriadau cywir a phriodol ynghylch addasrwydd person i weithio ym maes gofal cymdeithasol ac mewn rôl benodol

1.4 sicrhau bod gweithwyr yn deall eu rolau, eu cyfrifoldebau a’r hyn y maen nhw’n atebol amdano drwy roi gwybodaeth glir iddyn nhw

1.5 sicrhau bod gweithwyr yn gwybod sut gallant fodloni deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau perthnasol drwy roi gwybodaeth ac arweiniad clir iddyn nhw

1.6 rhoi gwybodaeth glir i weithwyr am linellau rheoli, cyfathrebu a chymorth yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ar gyfer eu hiechyd, eu diogelwch a’u llesiant yn y gweithle

1.7 sicrhau bod telerau ac amodau gweithwyr yn gyfreithlon ac yn ddigonol i gynnal gweithlu addas. Adolygu’r telerau ac amodau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal yn gyfreithlon ac yn ddigonol.

Adran 2

Sicrhau bod polisïau, systemau ac arferion ar waith i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i lynu wrth y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.

Rhaid i gyflogwyr:

2.1 helpu gweithiwr gofal cymdeithasol (gan gynnwys staff asiantaeth) i gyrraedd y safonau yn y Cod Ymarfer Proffesiynol a’r canllawiau ymarfer cysylltiedig

2.2 sicrhau bod gweithwyr yn cael eu rheoli a’u goruchwylio’n effeithiol i hybu’r arferion gorau ac ymddygiad da. Mae hyn yn cynnwys helpu gweithwyr i wella eu perfformiad a sicrhau eu bod yn addas i ymarfer

2.3 os ydych chi’n cyflogi gweithwyr o broffesiynau eraill (fel nyrsio neu therapi galwedigaethol), eu helpu i lynu wrth eu codau proffesiynol a rhoi gwybod i’r corff rheoleiddio perthnasol am weithwyr y gallai eu haddasrwydd i ymarfer fod yn ddiffygiol

2.4 gweithredu a monitro polisïau a gweithdrefnau i ymateb i honiadau o niwed, esgeuluso neu gam-drin. Rhaid i’r polisïau a’r gweithdrefnau sicrhau bod gweithwyr yn gwybod am arwyddion o niwed, esgeuluso neu gam-drin, ac yn gwybod pa gamau i’w cymryd

2.5 gweithredu a monitro polisïau ysgrifenedig ar gyfrinachedd a chadw cofnodion, a sicrhau bod gweithwyr yn deall eu cyfrifoldebau diogelu data

2.6 sicrhau bod systemau cadarn ar waith i wrando ar adborth gan unigolion a gofalwyr, ac ymateb i’r adborth hwn er mwyn llywio a gwella gwasanaethau a pherfformiad staff

2.7 sicrhau bod polisïau a systemau ar waith i weithwyr godi pryderon ynglŷn ag unrhyw fater a allai effeithio ar y gwaith o roi gofal a chymorth diogel ac urddasol, a chymryd camau digonol i ymateb i bryderon

2.8 sicrhau bod diwylliant a systemau cefnogol ar waith er mwyn helpu gweithwyr i fod yn agored ac yn onest os aiff pethau o chwith (cyflawni eu dyletswydd gonestrwydd), i roi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol ac i ddysgu o gamgymeriadau. Mae hyn yn cynnwys mynd ati i ddatrys problemau yn gynnar

2.9 sicrhau eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth a dyletswyddau mewn perthynas â diogelu a darparu hyfforddiant priodol i staff.

Adran 3

Darparu a chefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Rhaid i gyflogwyr:

3.1 darparu rhaglen gynefino gadarn a hygyrch, a chyfleoedd dysgu a datblygu parhaus i helpu gweithwyr i wneud eu swyddi’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys rhoi mynediad i weithwyr at eu cofnod dysgu a datblygu personol

3.2 cyfrannu at ddarparu dysgu a datblygu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, gan gynnwys asesu effeithiol yn y gweithle a dysgu ymarferol

3.3 helpu gweithwyr i fodloni’r amodau ar gyfer cofrestriad proffesiynol, gan gynnwys unrhyw ofynion ar gyfer hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru

3.4 ymateb yn briodol i unrhyw weithwyr sydd angen cymorth oherwydd nad ydyn nhw’n teimlo eu bod yn gallu cyflawni eu gwaith neu’n ddigon parod i wneud hynny

3.5 goruchwylio gweithwyr yn effeithiol ac yn rheolaidd i’w helpu i ddatblygu a gwella drwy ymarfer myfyriol, gan ddefnyddio’r Cod Ymarfer Proffesiynol a’r canllawiau ymarfer cysylltiedig fel sail i drafodaethau.

Adran 4

Sicrhau bod polisïau a systemau ar waith i ddiogelu pobl rhag sefyllfaoedd, ymddygiad ac ymarfer anniogel, a chymryd camau i ymateb pan fydd sefyllfaoedd anniogel yn codi.

Rhaid i gyflogwyr:

4.1 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau sy’n hybu iechyd a llesiant gweithwyr, unigolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr, a chymryd camau gweithredu pan nad yw polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn

4.2 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau sy’n hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gweithwyr, unigolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr, a chymryd camau gweithredu pan nad yw polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn

4.3 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau sy’n ei gwneud hi’n glir i weithwyr nad yw bwlio ac aflonyddu yn dderbyniol, a chymryd camau i ddelio ag ymddygiad o’r fath

4.4 sefydlu gweithdrefnau i weithwyr roi gwybod am ymddygiad ac ymarfer peryglus neu gamdriniol, neu sy’n gwahaniaethu, a delio â hyn yn brydlon, yn effeithiol ac yn agored

4.5 gwneud hi’n glir i weithwyr, unigolion, teuluoedd a gofalwyr nad yw trais, bygythiadau na sarhad yn dderbyniol. Mae hyn yn cynnwys cael polisïau a gweithdrefnau clir ar gyfer lleihau’r risg o drais, a rheoli digwyddiadau treisgar

4.6 sefydlu polisïau a gweithdrefnau i roi cymorth i weithwyr sy’n wynebu trawma, aflonyddu neu drais yn eu gwaith

4.7 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfedd â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys gofynion gorfodol, unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau, monitro cydymffurfedd a chymryd camau priodol pan na fydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn

4.8 sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau i ymchwilio i faterion disgyblu ac i ddelio â’r materion yn ddigonol, gan gynnwys pan fydd y gweithiwr yn gadael y sefydliad. Cymryd camau pan na fydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn, fel gwneud atgyfeiriad i Dîm Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru

4.9 rhoi cymorth i weithwyr lle mae pryderon wedi codi ynglŷn â’u haddasrwydd i ymarfer a rhoi canllawiau clir ynghylch y cyfyngiadau ar eu gwaith. Wrth wneud hyn, sicrhau mai gofal a diogelwch unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau yw’r flaenoriaeth.

Adran 5

Hyrwyddo’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a chydweithredu ag ymchwiliadau Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rhaid i gyflogwyr:

5.1 rhoi gwybod i weithwyr gofal cymdeithasol am y Cod hwn i Gyflogwyr a beth mae’n ei olygu iddyn nhw ac i’r gweithle

5.2 sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwybod am eu Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac yn deall y Cod a’u cyfrifoldeb proffesiynol i’w ddilyn

5.3 helpu rheolwyr gofal cymdeithasol i gyflawni eu cyfrifoldebau ychwanegol o dan Adran 7 o’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

5.4 rhoi gwybod i unigolion a gofalwyr am y codau ymarfer proffesiynol i gyflogwyr ac i weithwyr gofal cymdeithasol, ac am sut mae codi pryderon mewn cysylltiad â’r codau, gan gynnwys sut mae cysylltu â’r cyflogwr a Gofal Cymdeithasol Cymru

5.5 defnyddio’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol wrth wneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud ag addasrwydd gweithiwr i ymarfer

5.6 atgyfeirio gweithwyr y gallai eu haddasrwydd i ymarfer fod yn ddiffygiol at Gofal Cymdeithasol Cymru. Os yw’n briodol, rhoi gwybod i’r gweithiwr bod atgyfeiriad wedi’i wneud

5.7 cydweithredu ag ymchwiliadau a gwrandawiadau Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys darparu dogfennau a bod yn bresennol mewn gwrandawiadau

5.8 ymateb yn briodol i ganfyddiadau a phenderfyniadau Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch addasrwydd gweithiwr i ymarfer.

I fodloni’r holl safonau mewn gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio, lle bo angen rhaid penodi Unigolyn Cyfrifol addas a Rheolwr Cofrestredig, a rhaid iddyn nhw gael cymorth gan y cyflogwr i gyflawni eu cyfrifoldebau.