Jump to content
Heneiddio’n iach
Curated research

Heneiddio’n iach

| Martin Hyde

Mae'r dudalen hon ar heneiddio'n iach yn rhan o fenter i helpu pobl yng Nghymru i gael gafael ar ymchwil ar bynciau sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn cael ei ddewis neu ei ‘guradu’ gan bobl sydd â phrofiad proffesiynol o ymchwil ym maes y pwnc.

Cefndir yr ymchwilydd

Martin Hyde

Mae Martin yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe a’i brif ddiddordebau ymchwil yw heneiddio a bywyd hwyrach. Roedd Martin yn rhan o’r tîm a ddatblygodd fesur ansawdd bywyd hwyrach CASP-19, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio mewn dros 30 o wledydd.

Beth yw heneiddio’n iach?

Y boblogaethol yn heneiddio yw un o lwyddiannau mwyaf dynoliaeth...

Y cwestiwn nawr yw sut gallwn ni ychwanegu bywyd at y blynyddoedd, yn hytrach nag ychwanegu blynyddoedd at fywyd yn unig. Mae’r cwestiwn hwn yn ganolog i’r ffocws cynyddol ar heneiddio’n iach. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio heneiddio’n iach fel:

“proses o ddatblygu a chynnal y gallu swyddogaethol sy’n galluogi llesiant ymhlith pobl hŷn.”

Ystyr gallu swyddogaethol yw’r gallu i wneud y pethau sy’n bwysig i ni ein hunain ac i fyw fel y dymunwn, sy’n golygu ei fod yn edrych ar fwy na’r ffordd mae heneiddio’n effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol yn unig. Mae’n golygu bod anghenion sylfaenol pobl yn cael eu diwallu, eu bod yn gallu dysgu, tyfu a gwneud penderfyniadau personol, eu bod yn symudol, yn gallu datblygu a chynnal perthnasoedd a bod yn rhan o gymdeithas. Er mwyn gwneud hyn, rhaid ystyried mwy na’r unigolyn yn unig a’r hyn y mae ef/hi yn gallu ei wneud - mae angen i ni sicrhau bod amgylcheddau pobl yn hwyluso’r hyn sydd ei angen i heneiddio’n iach hefyd.

Mae hyrwyddo heneiddio’n iach o fudd i unigolion, y rheiny sy’n agos atynt, a chymdeithas yn gyffredinol. Mae pobl hŷn egnïol yn fwy tebygol o barhau i weithio, gwirfoddoli a gofalu. Rydym yn gwybod bod pobl hŷn yn cyfrannu at yr economi yn uniongyrchol, trwy gyflogaeth, ac yn anuniongyrchol, trwy ofalu am wyrion ac wyresau, gan alluogi rhieni i weithio. Yn ogystal, mae pobl hŷn iachach yn llai tebygol o fod angen gofal iechyd a chymdeithasol.

Os ydych chi’n newydd i waith ymchwil heneiddio’n iach

Heneiddio’n iach yw ffocws gwaith WHO ar heneiddio rhwng 2015 a 2030. Mae heneiddio’n iach yn disodli ‘Heneiddio egnïol: Fframwaith Polisi’ a gafodd ei ddatblygu yn 2002. Yn yr un modd â heneiddio egnïol, mae heneiddio’n iach yn pwysleisio’r angen i weithredu ar draws nifer o sectorau a galluogi pobl hŷn i barhau i fod yn adnodd i’w teuluoedd, cymunedau ac economïau.

Isod, mae fideo ‘Add "Life to Years" Through Healthy Ageing’ gan WHO yn amlinellu eu hymagwedd at Heneiddio’n Iach.

Yn y podlediad hwn, mae’r Arglwydd Geoffrey Filkin, sef cadeirydd a sefydlydd Canolfan Heneiddio’n Well y DU, yn trafod ei faniffesto ar gyfer bywydau hwy a gwell, pam mae angen i gyflogwyr stopio cael gwared ar weithwyr y tu hwnt i 50 oed, a phwysigrwydd llamu i fyny esgaladuron. Mae’r podlediad yn para 27 munud, ond mae’n werth gwrando arno.Podlediad 'Manifesto for better longer lives'.

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o heneiddio’n iach, ond mae’n bwysicach fyth gwybod sut y gallwch ei gyflawni. Dyma ganllaw ymarferol i heneiddio’n iach sy’n cynnwys camau y gallwch chi ac eraill eu cymryd i’ch helpu chi i gynnal bywyd hwyrach iach.

Mae adroddiad y Ganolfan Heneiddio’n Well yn darparu cipolwg o heneiddio heddiw ac yn y dyfodol, gan ffocysu ar y meysydd sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau hwyrach pobl. Pa mor barod yw cymdeithas ar gyfer ein bywydau hwy? Mae adroddiad newydd y Ganolfan, ‘The State of Ageing in 2019’, yn defnyddio data cyhoeddus i ddarparu cipolwg o fywydau pobl 65 oed neu’n hŷn heddiw.

Mwy o waith ymchwil manwl ar heneiddio’n iach

Mabwysiadwyd strategaeth a chynllun gweithredu byd-eang WHO ar heneiddio ac iechyd gan aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd yn 2016. Mae’r strategaeth wedi’i hadeiladu ar gysyniadoli newydd WHO ar Heneiddio’n Iach sy’n cael ei amlinellu yn Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar Heneiddio ac Iechyd 2015. Yn hytrach na ffocysu ar absenoldeb clefydau, mae’r adroddiad hwn yn ystyried Heneiddio’n Iach o safbwynt y gallu swyddogaethol sy’n galluogi pobl hŷn i fod, ac i wneud, yr hyn y mae ganddyn nhw reswm dros ei werthfawrogi.

Mae’r Strategaeth yn ymrwymo i weithredu mewn meysydd sy’n cynnwys tystiolaeth gref, yn ogystal â phwysleisio nifer o fylchau hollbwysig o ran gwybodaeth a chapasiti. O ganlyniad, mae’n awgrymu pedair blynedd o waith i baratoi’r byd am ddegawd o weithredu byd-eang cytunedig - Degawd Heneiddio’n Iach - rhwng 2020 a 2030.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi 10 blaenoriaeth WHO ar gyfer degawd heneiddio’n iach a hyrwyddo Heneiddio’n Iach o amgylch y byd, gan gynnwys y blaenoriaethau canlynol:

  1. sefydlu llwyfan ar gyfer arloesi a newid
  2. cefnogi cynllunio a gweithredu ar lefel gwlad
  3. casglu data byd-eang gwell ar heneiddio’n iach
  4. hyrwyddo ymchwil sy’n mynd i’r afael ag anghenion cyfredol pobl hŷn a rhai’r dyfodol
  5. alino systemau iechyd ag anghenion pobl hŷn
  6. gosod y sylfeini ar gyfer system gofal tymor hir ym mhob gwlad
  7. sicrhau’r adnoddau dynol angenrheidiol ar gyfer gofal integredig
  8. gweithredu ymgyrch fyd-eang i fynd i’r afael â rhagfarn oed
  9. diffinio’r achos economaidd ar gyfer buddsoddi
  10. gwella’r rhwydwaith byd-eang ar gyfer dinasoedd a chymunedau sy’n ystyriol o oedran

Yn ogystal, mae’r adroddiad yn darparu enghreifftiau eglur o sut i gyflawni pob un o’r blaenoriaethau amrywiol.

Mae ‘Adolygiad Tystiolaeth Heneiddio’n Iach Age UK’ yn cynnwys trosolwg da a hygyrch o rai o’r ffactorau sy’n effeithio ar Heneiddio’n Iach. Mae’r adolygiad yn seiliedig ar ddiffiniadau WHO ac ymchwil o bob cwr o’r byd. Yn ogystal, mae’r adolygiad yn cynnwys enghreifftiau o ymyraethau heneiddio’n iach ledled y DU.

Datblygwyd gwefan healthyageing.eu yn 2012 i roi sylw i enghreifftiau ymarferol o hyrwyddo ymyraethau iechyd er mwyn gwneud heneiddio’n iach yn realiti. Mae’r adran hon yn rhoi sylw i gamau gweithredu ledled Ewrop sydd â’r nod o wella iechyd a llesiant pobl hŷn. Mae’r enghreifftiau’n rhoi sylw i gynlluniau hyrwyddo iechyd cenedlaethol o 27 gwlad Ewropeaidd, yn amrywio o faeth a gweithgarwch corfforol, i gamau sy’n ymroddedig i hyrwyddo byw’n annibynnol a mynd i’r afael ag allgau cymdeithasol.

Mae sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau bywyd hwyrach iach yn golygu mwy na newid ein ffordd o fyw yn unig. Yn y rhifyn hwn o fwletin WHO, Healthy Ageing: Moving Forward, trafodir y ffaith bod angen i ni newid y ffordd rydym yn meddwl, teimlo a gweithredu o ran oed a heneiddio er mwyn mynd i’r afael ag ystrydebau rhagfarnllyd negyddol sy’n gallu niweidio ein hiechyd.

Golwg fanwl ar heneiddio’n iach

Ar hyn o bryd Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar Heneiddio ac Iechyd 2015 yw adroddiad mwyaf cynhwysfawr ar gyflwr heneiddio’n iach ledled y byd. Mae’n cwmpasu’r cyd-destun ar gyfer gweithredu a’r heriau ar gyfer datblygu polisi ynghyd â manylu ar dystiolaeth o ran cyflwr heneiddio’n iach o bob cwr o’r byd.

I ymateb i gyhoeddi Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar Heneiddio ac Iechyd, cyhoeddodd y cyfnodolyn, The Gerontologist, rifyn arbennig. Dyma’r erthyglau gorau, yn ôl y golygydd:

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.