GINA SHAW:
Cyd-gadeirydd SURF
[00:00:01] Mae’n mynd i alw’r Diddy Men.
TOMMY DUNNE:
Cyd-gadeirydd SURF
[00:00:05] Un o hen jôcs Ken Dodd:
[00:00:06] Mae’r ymennydd yn rhyfeddol; mae’n dechrau gweithio’r eiliad y cewch chi’ch geni ac yn dal i fynd nes i chi ddechrau siarad yn gyhoeddus.
GINA SHAW:
[00:00:16] Ac mae’n defnyddio honna drwy’r amser.
TOMMY DUNNE:
[00:00:17] Ydw [chwerthin].
[00:00:21] Gweld Cyfle
TOMMY DUNNE:
[00:00:28] O feddwl bod traean y bobl â dementia yn y wlad hon yn byw ar eu pen eu hunain yn y tŷ, ry’n ni eisiau dod allan i siopau, mwynhau’r arogleuon mewn caffis, ac mae angen cludiant i fynd â ni yno.
[00:00:40] Ry’n ni’n gweithio gyda chwmnïau bysiau sydd wedi gofyn i ni fynd i’r depo a siarad â’r gyrwyr er mwyn iddyn nhw gael deall.
GINA SHAW:
[00:00:48] Ie, er mwyn annog pobl i fynd allan ar eu pen eu hunain ar y bysiau a theimlo’n ddiogel.
[00:00:55] Stadiwm Parc Goodison
CYFLWYNYDD:
[00:00:58] Mae grŵp SURF Lerpwl yn cynnig cyfle i bobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gwrdd unwaith y mis i sbarduno newidiadau i wasanaethau lleol a’r gymuned.
DR SARAH BUTCHARD:
Seicolegydd Clinigol, Ysbyty Mossley Hill
[00:01:09] Dwi’n gweithio yn y gwasanaethau dementia ers peth amser a dwi bob amser wedi meddwl bod pobl yn gallu byw’n gadarnhaol gyda dementia.
[00:01:14] Ond mae pobl â dementia’n gwybod yn well na neb arall beth sydd ei angen ar bobl â dementia.
[00:01:19] O wrando’n iawn ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud, gallwn ddatblygu gwasanaethau sy’n bodloni eu hanghenion ac yn rhoi’r ansawdd bywyd gorau posib iddyn nhw.
STANLEY LIMBERT:
Aelod o SURF
[00:01:29] Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’n sicr yn gwneud gwahaniaeth i mi fel unigolyn, oherwydd mae’n rhoi gwell syniad i mi, a rhywfaint o ddylanwad.
PART & DAWN:
Gofalwyr ac aelodau o SURF
[00:01:36] Ry’n ni’n gweithio ar atebion ymarferol i’r problemau ry’n ni i gyd yn eu gweld.
[00:01:41] Ry’n ni eisiau rhywle i fynd i fynegi ein teimladau a chyflawni pethau.
GINA SHAW:
[00:01:47] Fe ofynnon ni i aelodau SURF pa siopau a busnesau yr hoffen nhw i ni edrych arnynt.
[00:01:53] Fe gysyllton ni â’r llefydd hynny i gyd a’u gwahodd i ddigwyddiad yma yn Neuadd y Dref.
TOMMY DUNNE:
[00:01:59] Roedd y bobl ddaeth i’r digwyddiad yn uwch reolwyr, pobl sy’n gallu newid polisi eu siopau eu hunain.
GINA SHAW:
[00:02:04] Mae’n grymuso pobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr, i deimlo’u bod yn gallu mynd i’r llefydd hyn, i mewn i’r busnesau hyn, a chael eu trin yn dda.
[00:02:17] Ry’n ni’n gwybod bod dementia’n gyflwr sy’n gwaethygu’n raddol ond ry’n ni’n gwneud y gorau o bethau tra gallwn ni.
TOMMY DUNNE:
[00:02:22] Ry’n ni’n gwybod na fydd gennym ddeg neu ugain mlynedd gyda Gina ond ry’n ni’n realistig.
[00:02:28] Ry’n ni’n gweld cyfle fan hyn ac fe fydd pobl SURF yno i helpu.
[00:02:32] Un o’r pethau gorau ddywedodd un dyn wrtha i oedd, “Ry’ch chi wedi fy ysbrydoli, wedi rhoi gobaith i mi,” a dyna ry’n ni ei eisiau.
Mae SURF Lerpwl yn un o dros 50 o grwpiau dan arweiniad pobl â dementia ledled y DU sy’n gweithio’n galed i newid pethau yn eu cymunedau