0:04
Fues i fyw yng Ngharmel am dros 50 years a wedyn yn Cilgwyn oedd fy nechra i.
0:12
Da iawn, a da chi'n Plas Gwilym rŵan.
0:15
Yndw dwi'n Plas Gwilym rŵan.
0:16
Ac mi o'n i adra yn Cilgwyn a dwi adra yn fama hefyd cofiwch.
0:21
Yndw.
0:22
Siarad Cymraeg ydych chi erioed?
0:23
Cymraeg, ia.
0:25
Ddweda i wrthych chi, South Walian oedd mam a fy nhad o Benygroes 'ma.
0:30
Es i i'r ysgol yn bedair oed a mi ges i slap ar fy llaw am siarad Cymraeg.
0:40
A siarad Cymraeg mam o'n i,
0:43
"tefe", "dan staer" am 'dan y grisiau' ond doeddwn i'm yn gwybod bo fi'n rong.
0:52
Ac mi es i adra a dweud a dyma fy nhad yn dweud, "Ar lle ges di slap?"
0:57
"Ar fy llaw yn fama."
1:00
A dyma fo'n gwylltio.
1:01
Dyma fo'n troi atom ni, oeddem ni'n bedwar o blant, a mam yna.
1:06
"Does 'na ddim gair o Gymraeg yn y tŷ yma o hyn allan."
1:12
"Da chi'n siarad Saesneg i gyd."
1:16
Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd o'n ei feddwl a dweud y gwir, yn bedair oed.
1:19
Doeddwn i ddim i fod mae'n siŵr nag oeddwn.
1:22
A dyma fo'n dweud "Allan efo'r plant mi gewch chi siarad Cymraeg fel 'da chi'n medru ac fel
1:28
"ydych chi eisiau, ond mae'n rhaid i Morfydd gael dysgu Cymraeg iawn."
1:34
"Dydi hi ddim yn cael slap eto."
1:37
Ac mi wnes i chwarae efo'r plant ac mi godais i o ar fy union.
1:41
Ac ydych chi'n siarad Cymraeg efo pawb bob dydd yn fama?
1:44
Yndw, yndw.
1:46
Cofiwch, os oes 'na rhywun Saesneg yna ac eisiau i mi ateb, mi ydw i'n gwneud ond
1:53
mi fysa'n well gen i o'n Gymraeg.
1:56
Mi fyswn i yn siarad Saesneg, dwi'n medru, achos mi drodd Mam i Saesneg adeg hynny o
2:04
iaith y 'south'.
2:06
Wedyn mae Saesneg ar dop y list yn y ffordd dwi'n medru, ond mae Cymraeg yn ei guro.
2:14
Ond dwi ddim yn gwybod, os fyswn i'n fama a bob man yn Saesneg, dwi ddim yn meddwl byswn i'n
2:22
gallu aros yn hir.
2:24
Na.
2:25
fysa'n dda i ddim byd i mi.
2:28
Ydych chi'n gwybod pan ydych chi'n mynd i weld Dr Britto rŵan a'ch bod chi'n gwybod
2:31
bod chi am orfod siarad Saesneg efo fo.
2:33
Sut ydych chi'n teimlo am hynny?
2:37
Wel, mae gen i ryddid yn does.
2:42
Mi fedrai i ddweud yn Saesneg wrtho, "I'm sorry, I can't speak English, only that."
2:50
Ac mi fysa fo yn nôl un o'r genod i siarad efo fi ac iddi hi ddweud wrtho be o'n i'n
2:56
ei ddweud.
2:58
Ond dydw i ddim angen hynny, mi fedrai siarad Saesneg dros fy hun.
3:04
Ond, dwi ddim yn gwybod, dydy o ddim yn gartrefol.
3:11
I ni'r Cymry, tydi o ddim.
3:14
Ydych chi'n teimlo'n fwy hyderus yn Gymraeg?
3:17
Wel, yndw.
3:19
Y peth ydy, pan da chi'n Gymraeg da chi'n teimlo, yn enwedig yn ganol Cymru,
3:25
"O, dwi adra."
3:28
"Mae gen i'r hawl i siarad fel fynnai".
3:31
Da chi'n gweld, mae o'n dod yn ei ôl i mi be wnaeth y teacher yna, rhoi slap i mi am
3:37
mod i heb siarad yn iawn.
3:40
Mewn ffordd dwi wedi bod yn ofalus erioed sut ydw i'n siarad.
3:46
Mae'n rhaid i'r geiriau fod yn iawn.
3:54
Ydych chi'n siarad Cymraeg yn fama bob dydd, Will?
3:56
Bob dydd, dim byd arall ond Cymraeg.
3:59
Sut ydych chi'n teimlo am y Gymraeg, Will?
4:03
Wel, dyna'r iaith ges i fy ngeni efo.
4:05
Fy mam a nhad, taid a nain.
4:11
Cymraeg ydw i yn bob dim.
4:15
Well gen i siarad Cymraeg na Saesneg.
4:17
Ydych chi'n meddwl bysa fo'n gwneud gwahaniaeth, Will, i'r ffordd ydych chi'n byw a'ch gofal
4:22
chi os fysech chi ddim yn gallu siarad Cymraeg bob dydd efo pobl?
4:27
Bysa, mae'n siŵr.
4:30
Fyswn i ddim yn teimlo'n hapus.
4:34
Dwi'n hapus yn fama, Cymraeg ydy pawb yma.
4:37
Pawb, staff a residents.
4:43
Mae'n gwneud lot o wahaniaeth.
4:46
Lot fawr.
4:47
Ym mha ffordd?
4:49
Wel, dyna ydy fy iaith i - Cymraeg.
4:51
Dwi'n mynd i language arall pan dwi'n siarad Saesneg.
4:56
A dydw i ddim yn gwybod sut i roi pethau drosodd o Gymraeg i Saesneg yn aml.
5:01
Reit.
5:02
Ydych chi'n gwybod be' dwi'n feddwl?
5:04
Ia.
5:06
Os ydw i eisiau dweud rhywbeth yn Gymraeg mi fedrai ei ddweud o, ond os ydw i eisiau
5:08
dweud o mewn Saesneg yr un peth, dwi'n gorfod meddwl.
5:12
Ydych chi dal yn medru siarad Saesneg?
5:15
Yndw tad.
5:16
Dim Saesneg da, ond mi fedrai gomiwnicatio.
5:23
Ydych chi'n gwybod pan wnaethoch chi ddewis dod i fyw i Blas Gwilym, oedd o'n bwysig i
5:27
chi fod o'n gartref Cymraeg?
5:30
Oedd tad, pwysig iawn.