JOSEPH:
[00:00:13] Mae’n ddiddorol gweld pobl sydd wedi llwyr ymlâdd wrth weithio gyda phobl â dementia,
[00:00:20] achos mae hynny fel arfer oherwydd eu bod yn gweithio gyda’r un person drwy’r amser, dro ar ôl tro ar ôl tro ar ôl tro ar ôl tro.
[00:00:25] Felly mae natur ailadroddus y sgyrsiau gewch chi gyda phobl â dementia’n dechrau mynd yn anodd iawn i bobl, ac mae angen ceisio deall mai dyna natur yr unigolyn.
[00:00:41] Allwch chi ddim mynd i deimlo’n rhwystredig gyda rhywun sy’n ailadrodd popeth o hyd.
[00:00:47] Ac mae’n debyg mai’r peth ry’n ni’n ei weld fwyaf yw bod pobl yn mynd yn rhwystredig â’r person sydd â dementia am eu bod wedi clywed yr un frawddeg neu’r un cwestiwn dri deg o weithiau yn yr awr ddiwethaf, a dyna sy’n anodd i bobl.
[00:01:00] Ond mae’n rhaid i chi gymryd cam yn ôl a sylweddoli bod hynny’n iawn.
[00:01:06] Fe fyddan nhw’n anghofio eu bod wedi gofyn y cwestiwn ugain neu dri deg o weithiau, ond mae’n rhaid i chi ateb fel pe baech chi’n ei glywed am y tro cyntaf.
[00:01:17] Mae’n anodd, ac mae’n rhaid dod i arfer, ond mae’n bwysig iawn iddyn nhw.
[00:01:25] Dwi’n meddwl eu bod nhw’n cofio’r teimlad o barch ry’ch chi’n ei roi.
[00:01:33] Mae’n nhw’n anghofio am beth fuoch chi’n siarad ond yn sylweddoli eu bod yn gallu siarad â chi, a’u bod yn gallu ymddiried ynoch chi.
[00:01:43] Dy’n nhw ddim yn gwybod beth sy’n digwydd felly mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn deall eich bod yn mynd i ofalu amdanyn nhw.
[00:01:50] Oherwydd dy’n nhw ddim yn clywed hynny’n aml, “Peidiwch â phoeni, fe ofala i amdanoch chi, mae’n iawn”,
[00:01:56] ac mae hynny’n bwysig iddyn nhw. Yn aml iawn, dim ond eisiau tawelwch meddwl maen nhw.
[00:02:03] Ac mae pobl yn gofyn, “Wnewch chi ofalu amdana i? Wnewch chi fy nghadw’n ddiogel?” “Gwnaf, mae’n iawn, dyna fy ngwaith. Dwi yma, fe ofala i amdanoch chi, peidiwch poeni. Fe wnaf i’n siŵr bod popeth yn iawn”.
[00:02:14] Hyd yn oed os y’ch chi’n meddwl nad y’n nhw’n ymwybodol o gwbl o’r hyn ry’ch chi’n ei ddweud, mae ’na siawns eu bod nhw’n ymwybodol.
[00:02:23] Felly maen rhaid dal ati fel petaen nhw’n deall popeth, a rhoi sicrwydd iddyn nhw “Ie, ie, ie”.
[00:02:31] Mae cyffwrdd yn bwysig iawn, ac esbonio’n union beth sy’n digwydd.
[00:02:37] Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu cyfathrebu â chi, maen nhw’n dal i deimlo rhywbeth, ac weithiau mae’n ddigon dweud, “Mae’n iawn, fe ofalwn ni amdanoch chi”.
[00:02:50] Un o’r pethau pwysicaf yw peidio â mynd yn rhwystredig – allwch chi ddim gwneud hynny.
[00:03:00] Maen nhw’n synhwyro’ch bod chi’n rhwystredig, yn gwybod eich bod yn rhwystredig.
[00:03:06] Efallai nad ydyn nhw’n gallu cyfleu hynny, na’i brosesu’n iawn, ond maen nhw’n synhwyro rhywbeth anghyfforddus.
[00:03:15] A hyd yn oed os ydyn nhw’n anghofio beth oedd cynnwys y sgyrsiau, fel y dywedais i, maen nhw’n tueddu i gofio’r teimlad o sut mae pethau.
[00:03:26] Felly fyddan nhw ddim yn ymddiried ynoch chi, ac unwaith maen nhw wedi dechrau colli ymddiriedaeth, mae ceisio cael hynny’n ôl yn …
[00:03:35] Felly mae’n bwysig iawn eu bod yn deall bod popeth yn iawn, ac mae angen ymlacio yn eu cwmni a gwrando arnyn nhw.
[00:03:45] Fe ddywedan nhw bethau sydd ddim yn gywir, ac mae hynny’n iawn, dyna’u byd, felly cytunwch â nhw.
[00:03:53] Gwrandewch arnyn nhw, a holi cwestiynau am bob math o bethau.
[00:03:59] Weithiau maen nhw’n sôn am rywbeth yn eu plentyndod, felly dywedwch, “O”, ac aros i weld a ydyn nhw eisiau sôn mwy am y digwyddiad.
[00:04:10] O ran digwyddiadau poenus, peidiwch â cheisio’u hannog i ddweud mwy am hynny,
[00:04:16] oherwydd iddyn nhw efallai mai dim ond ddoe y digwyddodd y peth, felly fe allai fod yn amrwd iawn o hyd iddyn nhw,
[00:04:24] ond gydag atgofion hapus, eto fe allai deimlo fel ddoe iddyn nhw, a gallai gofyn iddyn nhw ddweud mwy newid eu hwyliau’n llwyr.