Jump to content
Dilyn cynllun sy’n addas ar gyfer dementia
Dysgwch am y newidiadau i'r amgylchfyd yn y cartref all helpu pobl sy'n byw gyda dementia i fod yn fwy annibynnol a mwy diogel gartref.

Mae cyferbynnu lliwiau yn bwysig

Wrth i lygaid pobl heneiddio, yn arbennig os ydynt yn dioddef o ddementia, maent yn colli eu gallu i sylwi ar newidiadau mewn lliwiau. Defnyddiwch liwiau cryf, sy’n cyferbynnu er mwyn tynnu sylw at eitemau pwysig a rhoi teimlad o ddyfnder i ystafell:

  • Coch yw’r gorau, gan mai dyma’r lliw y mae llygaid hŷn yn ei weld yn fwyaf clir. Gall lliwiau eraill fod yn effeithiol, ar yr amod eu bod yn sefyll allan o’r cefndir
  • Gosodwch seddau tŷ bach gwrthgyferbyniol a chanllawiau i afael ynddynt mewn ystafelloedd ymolchi
  • Os yw’r canllaw yn wyn, ychwanegwch dâp duct lliw neu baentio’r wal yn un lliw
  • Sicrhewch fod canllawiau grisiau yn cyferbynnu â’r wal
  • Tynnwch sylw at ymylon y grisiau gyda thâp lliw llachar
  • Defnyddiwch glustogau o liwiau llachar ar gadair
  • Paentiwch ddrysau neu ffrâm y drws, neu ychwanegwch arwydd addas ar gyfer dementia, neu gerdyn lliw A3
  • Dylai waliau gyferbynnu â lloriau
  • Defnyddiwch dâp masgio ar switsys golau neu ar y plât cefn.

Mae angen mwy o olau ar lygaid hŷn er mwyn gweld yn glir

Wrth i bobl heneiddio gallent for angen 60 y cant mwy o olau i weld yn glir.

  • Gwnewch y gorau o olau naturiol drwy agor y llenni’n llwyr ac agor cysgodlenni
  • Trowch oleuadau ymlaen wrth i’r golau naturiol bylu
  • Defnyddiwch fylbiau llachar a goleuadau tasg
  • Sicrhewch fod cyn lleied â phosibl o newidiadau mewn lefelau golau rhwng ystafelloedd. Mae llygaid yn cymryd eiliad i addasu os ydych yn mynd o ystafell lachar i gyntedd tywyllach, ac mae hyn yn cynyddu’r risg o syrthio
  • Sicrhewch fod modd tywyllu ystafelloedd yn y nos
  • Gadewch olau’r ystafell ymolchi ymlaen yn y nos er mwyn helpu’r person i ddod o hyd i’r tŷ bach
  • Gall newidiadau syml i’r dull o oleuo helpu pobl i ymdopi’n well gyda’r machlud, pan fydd rhai pobl sy’n dioddef o ddementia yn mynd yn fwy aflonydd a ffwdanllyd wrth i olau naturiol bylu gyda’r nos.

Sicrhau bod y cartref yn llai dryslyd

Gall dodrefn patrymog, newidiadau mewn gorchuddiadau llawr a sŵn cefndirol daflu neu ddrysu rhywun sy’n dioddef o ddementia. Dysgwch sut i leihau hyn:

  • Yn lle patrymau, defnyddiwch un lliw ar loriau, llenni, dillad gwely a phapur wal
  • Sicrhewch fod yr un math o loriau drwy’r tŷ. Gall pobl weld newid yn y llawr neu drothwyau yn rhwystr
  • Gwaredwch fatiau; fe allan nhw achosi i rywun gwympo a gellir eu camgymryd fel twll yn y llawr
  • Gall golau sy’n cael ei adlewyrchu o ffenestri neu oleuadau uwch ben gynyddu dryswch. Ystyriwch hongian llen voile neu symud dodrefn er mwyn lleihau’r effaith
  • Gwaredwch, gorchuddiwch neu symudwch ddrychau os yw pobl yn teimlo eu bod yn achosi pryder
  • Lleihewch unrhyw sŵn diangen drwy ddiffodd y teledu neu’r radio os nad oes unrhyw un yn ei ddefnyddio. Wrth i ddementia ddatblygu, mae’n mynd yn fwyfwy anodd i berson hidlo synau
  • Gall sŵn sugnwr llwch a pheiriant golchi dynnu sylw’r person a gwneud tasgau yn fwy anodd
  • Mae clociau sy’n addas ar gyfer dementia ar gael sy’n dangos ei bod yn ddydd/nos, diwrnod yr wythnos a’r mis. Mae apiau ar gael hefyd yn nodi amser, diwrnod a nodiadau atgoffa am ddyddiadau.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch