Jump to content
Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2024

Cynhelir Wythnos Gwaith Cymdeithasol o ddydd Llun 18 Mawrth i ddydd Gwener 22 Mawrth. Mae'n dod â phobl at ei gilydd i ddathlu gwaith cymdeithasol.

Yn ystod yr wythnos, byddwn ni'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar gydweithio, cydgynhyrchu, llesiant a meysydd gwella ymarfer.

Ac ar ddydd Mawrth 19 Mawrth byddwn ni'n dathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd trwy rannu negeseuon fideo ysbrydoledig gan arweinwyr gwaith cymdeithasol.

I bwy mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol?

Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio a'r rhai sy'n dymuno dychwelyd i'r proffesiwn
  • gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio a’r rhai sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn
  • myfyrwyr gwaith cymdetihasol ac addysgwyr
  • pobl sydd â phrofiad o waith cymdeithasol
  • cyflogwyr gweithwyr cymdeithasol
  • gweithlu gofal cymdeithasol ehangach
  • swyddogion llywodraeth a pholisi
  • gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau partner.

Ymunwch â’n digwyddiadau!

Edrychwch ar ein rhaglen o ddigwyddiadau isod, sy’n cynnwys amrywiaeth o bynciau o lesiant i niwroamrywiaeth. Cliciwch ar ddolenni Eventbrite i archebu eich lle.

Bydd mynychu ein digwyddiadau yn cyfrif tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydych chi wedi cofrestru gyda ni.

Mae cofrestru ar gyfer ein digwyddiadau nawr ar gau

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ac mae gennych chi ymholiad, gallwch chi anfon ebost at cerian.twinberrow@socialcare.wales ac emily.bates@socialcare.wales a byddwn ni'n hapus i helpu.

Dydd Llun 18 Mawrth, 10am i 12:00pm

Llesiant yn y gwaith: Beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio

Ar-lein

Bydd y sesiwn yma’n cael ei arwain gan Rebecca Cicero, Rheolwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru a Dr Giles P Croft, sy’n raddedig mewn seicoleg ac yn gyn lawfeddyg y GIG sy’n rhedeg practis hyfforddi sy’n canolbwyntio ar y galon.

Mae ffocws cynyddol wedi bod ar sut i gefnogi llesiant yn y gwaith, ond mae rhai atebion yn gadael unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu beio a’u gorlwytho. Pan fydd cymaint o bwysau ar adnoddau, pa wahaniaeth y gall mentrau llesiant ei wneud mewn gwirionedd?

Yn y sesiwn ysgafn hon, byddwch chi’n dysgu’r rheswm rhyfeddol pam mae’r rhan fwyaf o ddulliau’n methu, a thrwy wneud hynny, datgloi’r gyfrinach i lywio’ch gweithle eich hun yn llawer haws.

Dydd Llun 18 Mawrth, 1.30pm i 3.30pm

Gweithdy gofalwyr di-dâl

Ar-lein

Bydd y gweithdy hwn am ofalwyr di-dâl yn ymdrin â hyfforddiant, adnoddau ac arfer da.

Yn ymuno â ni bydd Jake Smith, sy’n Uwch Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Gofalwyr Cymru, a fydd yn siarad am:

  • y prosiect Carer Aware a hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol
  • egwyddorion arfer da Carer Aware ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, wedi'u cynhyrchu ar y cyd â gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol
  • yr arfer da y mae gweithwyr cymdeithasol wedi'i weld o ran rhyngweithio â gofalwyr, a'r rhwystrau a'r heriau maen nhw‘n eu hwynebu
  • cyngor ac adnoddau i helpu gweithwyr cymdeithasol sydd hefyd â'u cyfrifoldebau gofalu di-dâl eu hunain.

Bydd Cerian Twinberrow o Gofal Cymdeithasol Cymru yn esbonio:

  • sut y gall ein hadnoddau a'n dysgu gefnogi gweithwyr cymdeithasol i weithio gyda gofalwyr
  • sut mae gofalwyr di-dâl yn berthnasol i Gynllun y Gweithlu Gwaith Cymdeithasol a'r cyd-destun ehangach.
Dydd Mawrth 19 Mawrth, 10am i 12pm

Goruchwyliaeth mewn gwaith cymdeithasol

Ar-lein

Yn ystod y sesiwn dwy awr hon byddwn yn clywed gan ein cyflwynwyr:

Byddan nhw'n edrych ar y canlynol:

  • sut y darperir goruchwyliaeth mewn gwaith cymdeithasol
  • gwahanol ddamcaniaethau, modelau a dulliau goruchwylio a sut mae'r rhain yn effeithio ar weithwyr cymdeithasol a phobl sy'n cyrchu cymorth gwaith cymdeithasol
  • manteision a heriau posibl gwahanol ddulliau o oruchwylio.

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn.

Dydd Mawrth 19 Mawrth, 2pm i 4pm

Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau - trafodaeth banel a chwestiynau

Ar-lein

“Ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau mewn gwaith cymdeithasol”

“Sut i gael sgyrsiau anodd - mewnwelediadau o Gyfweld Ysgogiadol”.

Bydd yr Athro Donald Forrester yn siarad am Gyfweld Ysgogiadol a pham mae sgyrsiau gwaith cymdeithasol yn aml yn cynnwys tensiynau neu wrthdaro. Byddwn ni'n edrych ar sut y gallai Cyfweld Ysgogiadol ein helpu i ddeall a gweithio gyda'r rhain yn well.

Dilynir hyn gan drafodaeth banel gydag arbenigwyr o faes ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau:

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i'r panel am y maes ymarfer hwn.

Dydd Mercher 20 Mawrth, 10am i 12pm

Ydy hwn ymlaen? Technoleg a gwaith cymdeithasol gydag oedolion

Ar-lein

Gall technoleg fod yn rhan ddefnyddiol o becyn cymorth gweithiwr proffesiynol gwaith cymdeithasol, ond gall fod yn anodd deall sut a pha dechnoleg all ein helpu.

Arweinir y sesiwn hon gan:

  • Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesi Digidol Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Matt Lloyd, Rheolwr Rhaglen Atal a Lles Tîm Cymorth Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent (RPB)
  • Meilys Heulfryn Smith, Uwch Reolwr Cefnogi Iechyd a Lles yng Nghyngor Gwynedd
  • Paul Mazurek, Cyngor Sir y Fflint.

Bydd y gwesteiwyr yn siarad am ofal wedi'i alluogi gan dechnoleg a gwaith cymdeithasol gydag oedolion.

  • Dysgwch sut y gall technoleg helpu pobl i sicrhau canlyniadau cadarnhaol gydag enghreifftiau o fywyd go iawn.
  • Archwilio rhai o'r heriau y gall gweithwyr proffesiynol gwaith cymdeithasol eu hwynebu wrth ddefnyddio technoleg fel rhan o waith cymdeithasol cydweithredol.
  • Cael mynediad at wybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i drafod technoleg yn hyderus gyda'r bobl yr ydych yn eu cefnogi.

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau am y maes hwn o ymarfer.

Dydd Mercher 20 Mawrth, 2pm i 4pm

Gwerthfawrogi Arbenigedd Profiad Byw

Ar-lein

Bydd Hannah Morland-Jones a Paul Whittaker o’r Coleg Adfer yn archwilio gwerth arbenigedd profiad bywyd mewn adferiad iechyd meddwl, gan ddefnyddio enghreifftiau o Gymru.

Byddan nhw‘n edrych ar:

  • model y Coleg Adfer
  • cefnogaeth gan gymheiriaid a
  • cydgynhyrchu ac ymgysylltu.

Hannah Morland-Jones yw Rheolwr Rhaglen Strategol ar gyfer Profiad o Fyw (AaGIC) a Phennaeth y Coleg Adfer a Phrofiad o Fyw (CAVUHB)

Paul Whittaker yw Arweinydd Prosiect ar gyfer Adferiad Cenedlaethol (AaGIC) ac Ymgynghorydd Cymheiriaid (Coleg Adfer a Lles CAVUHB).

Dydd Iau 21 Mawrth, 10am to 12pm

Gweithdy gofal perthynas-ganolog y Coleg Adfer Cenedlaethol

Ar-lein

Ymunwch â'n hyfforddwyr Hannah Morland-Jones a Paul Whittaker o'r Coleg Adfer ar gyfer y gweithdy hwn i archwilio a dysgu am ofal, cefnogaeth a dysgu sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd wrth arwain gwasanaethau iechyd meddwl.

Bydd y sesiwn yn defnyddio dull cydgynhyrchu sy’n dod â gwybodaeth, profiad a mewnwelediadau amrywiol y cyfranogwyr ynghyd.

Hannah Morland-Jones yw Rheolwr Rhaglen Strategol ar gyfer Profiad o Fyw (AaGIC) a Phennaeth y Coleg Adfer a Phrofiad o Fyw (CAVUHB)

Paul Whittaker yw Arweinydd Prosiect ar gyfer Adferiad Cenedlaethol (AaGIC) ac Ymgynghorydd Cymheiriaid (Coleg Adfer a Lles CAVUHB).

Dydd Iau 21 Mawrth, 1pm tan 2pm

Beth mae bod yn weithiwr proffesiynol rheoledig yn y Deyrnas Unedig yn ei olygu?

Ar-lein

Cynhelir y sesiwn hon gan Social Work England.

Ymunwch ag arweinwyr pedwar rheolydd gwaith cymdeithasol Prydain wrth iddynt drafod eu profiadau cyffredin o reoleiddio gwaith cymdeithasol a sut mae rheoleiddio yn cyfrannu at ymdeimlad cryf o hunaniaeth broffesiynol ar gyfer gwaith cymdeithasol i ddenu, hyfforddi a chadw gweithlu.

Y cyflwynwyr yw:

  • Gofal Cymdeithasol Cymru: David Pritchard, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
  • Social Work England: Colum Conway, Prif Weithredwr
  • Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon: Patricia Higgins, Prif Weithredwr
  • Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban: Laura Lamb, Cyfarwyddwr Dros Dro y Gweithlu, Addysg a Safonau.
Dydd Gwener 22 Mawrth, 10am i 12pm

Gwaith cymdeithasol a niwroamrywiaeth

Ar-lein

Nod y sesiwn ryngweithiol hon yw rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ynghylch pwnc niwroamrywiaeth. Bydd yn cael ei gynnal gan Fiona McDonald ac Alice Lewis-Gray, dau weithiwr proffesiynol sydd â phrofiad byw o fod yn niwroamrywiol ac yn gweithio yn y proffesiwn cynorthwyol.

Mae'r cyflwynwyr yn frwd dros weithio gyda phobl niwro-ddargyfeiriol a datblygu dealltwriaeth ehangach yn y gweithlu.

Yr hyn y byddwn yn ei gwmpasu

Yn y sesiwn hon, byddwch yn:

  • cael trosolwg byr o beth yw niwroamrywiaeth, gan edrych yn fanylach ar effaith awtistiaeth a dyslecsia
  • dysgu am gryfderau a chyfyngiadau'r amodau hyn a sut i oresgyn rhwystrau i lwyddiant yn y gwaith
  • clywed storïau ac enghreifftiau o achosion i gynorthwyo myfyrio a dyfnhau dysgu yn y maes hwn
  • dysgu awgrymiadau syml ac ymarferol a allai fod o gymorth i'r tîm cyfan
  • clywed am dechnoleg gynorthwyol a'r gwahaniaeth anhygoel y gallant ei wneud o ran arbed amser
  • darganfyddwch y camau nesaf y gallech eu cymryd i gynnal eich hun neu bobl niwroamrywiol eraill yn eich gweithlu.

Y safbwyntiau a fynegir yn y gweithdai hyn yw barn y siaradwyr ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn y sefydliadau y maent yn eu cynrychioli, na barn Gofal Cymdeithasol Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Chwefror 2024
Diweddariad olaf: 14 Mawrth 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (65.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch