Jump to content
Mae’r broses gofrestru yn newid: Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
Ymgynghoriad

Mae’r broses gofrestru yn newid: Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwng 30 Mai a 14 Gorffennaf 2023, fe wnaethom ni ofyn am eich barn am ein newidiadau arfaethedig i gofrestru.

Fe wnaethom ni rannu ein newidiadau arfaethedig i’r canlynol:

  • gofynion cofrestru ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol
  • y broses adnewyddu cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol
  • gofynion cofrestru ar gyfer gweithwyr preswyl mewn ysgolion arbennig
  • gofynion cofrestru ar gyfer rheolwyr preswyl mewn ysgolion arbennig.

Er mwyn sicrhau bod y rheini y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio arnynt yn cael cyfle i roi eu barn, fe wnaethom ni wneud y canlynol:

  • rhoi’r ddogfen mewn lle amlwg ar ein gwefan
  • cynnal gweminar i helpu pobl i ddeall y newidiadau arfaethedig
  • rhoi gwybodaeth am yr ymgynghoriad yn ein e-fwletin
  • anfon gwybodaeth am yr ymgynghoriad at bersonau cofrestredig a chyflogwyr.

Roedd y ddogfen ymgynghori ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac roedd fersiynau eraill ar gael ar gais. Fe wnaethom ni hefyd dderbyn ymatebion nad oeddent wedi cael eu cyflwyno drwy ein harolwg ar-lein.

Pwy ymatebodd i’r ymgynghoriad?

Cawsom 227 o ymatebion. O’r rhai a ymatebodd, dywedodd 78 y cant eu bod yn ymateb fel unigolion a dywedodd 22 y cant eu bod yn cynrychioli barn sefydliad.

O’r rheini a ymatebodd, roedd y nifer fwyaf o ymatebion:

  • gan unigolion wedi dod gan reolwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol
  • gan sefydliadau wedi dod gan gyflogwyr gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol a mudiadau trydydd sector.

Dyma y gwnaethoch chi ei ddweud wrthym ni

C1. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig bod gweithwyr gofal cymdeithasol nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau cydnabyddedig ond sydd â digon o brofiad rheoli ac sydd wedi cofrestru i gwblhau’r cymhwyster lefel 4 neu lefel 5 o fewn 3 blynedd i gofrestru, yn gallu cofrestru i fod yn rheolwr gofal cymdeithasol?

Eich ymateb chi oedd:

Ydym: 77 y cant

Nac ydym: 23 y cant

Fe wnaethoch chi ddweud y byddai’r cynnig o fudd o ran denu rheolwyr newydd ac y bydd yn rhoi cyfleoedd i reolwyr symud o leoliadau rheoledig eraill.

C2. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig bod gweithwyr gofal cymdeithasol yr oedd yn ofynnol iddynt gwblhau’r cymhwyster lefel 2 neu lefel 3 a restrir yn y fframwaith cymwysterau o fewn y cyfnod cofrestru tair blynedd cyntaf, nawr yn cael hyd at chwe blynedd (dros ddau gyfnod cofrestru o dair blynedd) i gwblhau’r cymhwyster?

Eich ymateb chi oedd:

Ydym: 68 y cant

Nac ydym: 32 y cant

Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch chi wrthym fod caniatáu mwy o amser i gwblhau’r cymwysterau yn syniad da ac y bydd y newid hwn yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant.

C3. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig bod gweithwyr preswyl mewn ysgolion arbennig yn cofrestru gan ddefnyddio’r cymwysterau a restrir?

Eich ymateb oedd:

Ydym: 89 y cant

Nac ydym: 11 y cant

C4. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig bod gweithwyr preswyl mewn ysgolion arbennig nad oes ganddynt un o’r cymwysterau cydnabyddedig yn cofrestru gan ddefnyddio'r llwybr asesiad gan gyflogwr?

Eich ymateb chi oedd:

Ydym: 89 y cant

Nac ydym: 11 y cant

C5. Ydych chi’n meddwl bod y safonau a’r disgwyliadau ar gyfer gweithwyr a nodir yn y canllawiau ymarfer ar gyfer gofal plant preswyl yn rhesymol ac yn gyraeddadwy?

Eich ymateb chi oedd:

Ydym: 91 y cant

Nac ydym: 9 y cant


C6. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig bod rheolwyr preswyl mewn ysgolion arbennig yn cofrestru gan ddefnyddio’r cymwysterau a restrir?

Eich ymateb chi oedd:

Ydym: 91 y cant

Nac ydym: 9 y cant

C7. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig bod gweithwyr preswyl mewn ysgolion arbennig nad oes ganddynt un o’r cymwysterau cydnabyddedig yn cofrestru gan ddefnyddio'r llwybrau cofrestru eraill?

Eich ymateb chi oedd:

Ydym: 81 y cant

Nac ydym: 19 y cant

C8. Ydych chi’n meddwl bod y safonau a’r disgwyliadau ar gyfer rheolwyr a nodir yn y canllawiau ymarfer yn rhesymol ac yn gyraeddadwy?

Eich ymateb chi oedd:

Ydym: 93 y cant

Nac ydym: 7 y cant

C9. Sut bydd ein cynigion yn effeithio ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

  • cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
  • peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Sut gallem ni gynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu leihau’r rhai negyddol?

Fe ddywedoch chi:

“Gobeithio y bydd mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg ac efallai annog pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru sydd ddim yn siarad Cymraeg i fod â’r hyder i geisio dysgu’r Gymraeg, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o eiriau neu ymadroddion fyddai hynny.”
“Ni ddylai gael unrhyw effaith negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg a dylid gweld effaith fwy cadarnhaol gan fod y Cynnig Rhagweithiol yn rhan naturiol o ddarparu cymwysterau yng Nghymru.”
Awgrymodd nifer o bobl y byddai’n ddefnyddiol cael mynediad at adnoddau Cymraeg y gallai staff eu defnyddio.

C10. Ydy’r safonau yn effeithio ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig? Y nodweddion gwarchodedig yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Fe ddywedoch chi:

“Rwy’n teimlo y bydd y cynigion yn darparu ar gyfer y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig – yn benodol, oedran, anabledd, a beichiogrwydd a mamolaeth oherwydd gall y rhain effeithio ar sut mae unigolion yn datblygu o ran eu cymhwyster. Y rheswm am hyn yw efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i gwblhau eu cymhwyster, felly efallai y bydd yn cymryd mwy o amser iddynt.”
“Yr hyn a fyddai o fudd i bobl ag anawsterau dysgu/lefelau isel o lythrennedd sy’n gweithio yn y sector yw cyflwyno cymhwyster Lefel 1 cydnabyddedig a fyddai’n caniatáu iddynt gofrestru i barhau i weithio yn y sector a chael cymhwyster realistig. Mae gan lawer o weithwyr lawer i’w gynnig i’r gweithlu ond mae’r ffaith eu bod yn gorfod ennill cymhwyster yn peri iddynt beidio gwneud hynny, yn enwedig gweithwyr sydd wedi bod yn y sector a'r tu allan i fyd addysg ers blynyddoedd lawer.”

Roedd nifer uchel o ymatebion a oedd yn awgrymu y byddai caniatáu chwe blynedd i gwblhau’r cymhwyster yn cael effaith gadarnhaol ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Fe wnaethom ni edrych ar yr ymatebion a’u trafod fel rhan o’n cynlluniau ar gyfer dyfodol cofrestru. Mae eich ymatebion i’r ymgynghoriad hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.

Fe wnaethom ni ddefnyddio eich adborth o’r ymgynghoriad i lunio ein dull gweithredu a’n hamserlen ar gyfer gwneud newidiadau i’r broses gofrestru.

Beth fydd yn newid?

Byddwn yn gwneud y newidiadau canlynol:

Gofynion cofrestru ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol

Erbyn mis Hydref 2023, byddwn yn derbyn gweithwyr gofal cymdeithasol sydd heb y cymhwyster lefel 3, ond sy’n gallu dangos digon o brofiad rheoli.

Yn fras, bydd ‘profiad rheoli digonol’ yn golygu unigolion sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad cyfwerth yn ystod y deng mlynedd diwethaf o reoli lleoliad gofal cymdeithasol, iechyd neu debyg, o dan oruchwyliaeth reoleiddiol. Bydd y Cofrestrydd yn ystyried pob achos yn unigol ac yn rhoi barn pan fo angen.

Byddwn yn datblygu ein systemau yn Gofal Cymdeithasol Cymru i ganiatáu ar gyfer y newidiadau hyn ac yn ceisio rhoi’r rhain ar waith erbyn mis Hydref 2023. Yn y cyfamser, gall pobl gysylltu â’n tîm cofrestru i wneud cais i gofrestru fel hyn.

Y broses adnewyddu cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

Rydyn ni'n sylweddoli y gall llawer o bobl gwblhau’r cymhwyster mewn tair blynedd, ac rydyn ni'n dal i ddisgwyl y bydd y mwyafrif o weithwyr gofal cymdeithasol yn ennill eu cymwysterau o fewn tair blynedd.

Fe wnaethom ni wrando ar eich adborth a’r effaith gadarnhaol y byddai’r newid hwn yn ei chael ar y rheini sy’n gweithio rhan-amser, sydd â nodweddion gwarchodedig neu sydd, oherwydd amgylchiadau eraill, yn ei chael hi’n anodd cwblhau’r cymhwyster o fewn yr amserlen hon.

Nawr, bydd gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i gwblhau ei gymhwyster.

Rydyn ni eisoes wedi rhoi’r newid hwn ar waith a byddwn ni'n diweddaru ein gwefan cyn bo hir.

Gofynion cofrestru ar gyfer rheolwyr a gweithwyr preswyl mewn ysgolion arbennig

Yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, byddwn ni'n gweithredu’r llwybrau i gofrestru, ffioedd cofrestru a chanllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr a gweithwyr preswyl mewn ysgolion arbennig.

Os caiff ei roi ar waith, rydyn ni'n rhagweld na fydd y gofyniad i gofrestru yn digwydd am o leiaf 18 mis. Bydd ein tîm Cofrestru mewn cysylltiad ag ysgolion preswyl arbennig i helpu gyda chofrestru ac i ateb unrhyw gwestiynau. Gan weithio gydag ysgolion preswyl arbennig, byddwn yn datblygu adnoddau fel cwestiynau cyffredin i gefnogi hyn.

Effeithiau ar y Gymraeg

Byddwn ni'n parhau i gynhyrchu ein holl adnoddau yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn cefnogi gweithwyr a rheolwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae gennym ni eisoes amrywiaeth o adnoddau ar gael ar ein tudalen we defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a byddwn ni'n parhau i godi ymwybyddiaeth ohonyn nhw.

Rydyn ni wedi bod yn datblygu modiwl e-ddysgu sy'n cynnwys:

  • braslun o hanes y Gymraeg
  • deddfwriaeth a’r cynnig rhagweithiol
  • pam mae defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn bwysig
  • Cartref oddi Cartref (ffilm fer yn dangos effaith yr iaith a dementia)
  • mwy o adnoddau i gefnogi ymwybyddiaeth a datblygu iaith.

Bydd y modiwl e-ddysgu ar gael i’r sector ddechrau’r hydref a gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.