Jump to content
Gweithdy: trosolwg o arweinyddiaeth dosturiol
Digwyddiad

Gweithdy: trosolwg o arweinyddiaeth dosturiol

Dyddiad
18 Medi 2024, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r gweithdy hwn yn darparu trosolwg o arweinyddiaeth dosturiol, ei ethos, a sut i’w weithredu yn eich lleoliadau er mwyn cefnogi staff a rheolwyr.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer rheolwyr, arweinwyr ac unrhyw un sydd ag awydd i arwain sy’n gweithio yn neu’n astudio’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hwn, edrychwn ar:

  • egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol
  • y gwahaniaeth gall arweinyddiaeth dosturiol wneud i’ch lleoliad
  • ffyrdd ymarferol o ddefnyddio arweinyddiaeth dosturiol mewn ymarfer beunyddiol.