Jump to content
Gweithdy gofal plant a’r blynyddoedd cynnar: cefnogi datblygiad cyfannol
Digwyddiad

Gweithdy gofal plant a’r blynyddoedd cynnar: cefnogi datblygiad cyfannol

Dyddiad
14 Awst 2024, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar effaith cysylltiadau o ansawdd da ar lesiant emosiynol plant ifanc.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, edrychwn ar:

  • ystyr cysylltiadau o ansawdd da
  • effaith emosiynau arddangosedig ar lesiant emosiynol plant
  • eich rôl wrth hybu amgylchedd tawel ac anogaethol sy’n gadael i blant gyfathrebu a mynegi teimladau.