Jump to content
Gweithdy cyflogwyr: cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn y gwaith
Digwyddiad

Gweithdy cyflogwyr: cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn y gwaith

Dyddiad
23 Hydref 2024, 9.30am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r gweithdy hwn yn gyfle i rwydweithio gyda rheolwyr a chyflogwyr eraill wrth ddysgu'r hyn sydd ei angen i gefnogi gweithwyr i gyflawni eu cymwysterau.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol sy’n darparu cymorth i weithwyr wrth iddynt gyflawni eu cymwysterau.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • edrych ar gymwysterau gwahanol, gan gynnwys
    • y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol
    • Lefel 4 paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    • Lefel 4 ymarfer proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol

    • Lefel 5 arwain a rheoli iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer.

  • esbonio beth yw’r AWIF, pwy ddylai ei gyflawni, beth mae’n cynnwys a’r adnoddau sydd ar gael

  • esbonio beth yw’r cymwysterau, pwy maen nhw ar gyfer, beth maen nhw’n cynnwys a sut maent yn cael eu hasesu

  • edrych ar sut mae’r AWIF yn cysylltu â’r cymwysterau eraill, a sut i’w ddefnyddio i gynorthwyo cofrestru rheolwyr gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

  • archwilio ‘llwybrau hyblyg’ gwahanol sydd ar gael i bobl gofrestru fel rheolwr.