Jump to content
Gofal cymdeithasol: hyfforddiant hyrwyddwyr digidol
Digwyddiad

Gofal cymdeithasol: hyfforddiant hyrwyddwyr digidol

Dyddiad
18 Medi 2024 i 8 Hydref 2024, 10am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Cymunedau Digidol Cymru

Byddwch yn hyrwyddwr digidol ar gyfer eich gweithle. Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i helpu’ch cydweithwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau a hyder wrth ddefnyddio technoleg digiol i’w cefnogi yn eu rolau.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn hyrwyddwr digidol ar gyfer ei sefydliad.

Cynnwys y sesiwn

Bydd y sesiwn hon yn cael ei harwain gan ein tîm o hyfforddwyr Cynhwysiant Digidol. Bydd y gweithdy yn cynnwys:

  • beth mae’n golygu i fod yn hyrwyddwr digidol
  • enghreifftiau o weithgareddau ysbrydoledig gallwch gymryd yn ôl i’ch gweithle
  • sut mae llwyddiant yn edrych i chi fel hyrwyddwr digidol
  • sut i ddarparu cymorth ymarferol i gael pobl ar-lein
  • trosolwg o hygyrchedd digidol
  • trosolwg o ddiogelwch ar-lein.

Dyddiadau

  • 10am i hanner dydd, 18 Medi
  • 2pm i 4pm, 8 Hydref