Jump to content
Cefnogi llesiant: cyfres fach ar bolisi gweithle
Digwyddiad

Cefnogi llesiant: cyfres fach ar bolisi gweithle

Dyddiad
23 Hydref 2024 i 5 Tachwedd 2024, 10am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

O bapur i ymarfer ystyrlon, mae’r gyfres fach hyn yn archwilio sut i gefnogi llesiant yn y gwaith drwy bolisi. Ymunwch â ni am bedwar sesiwn neu dim ond un er mwyn ystyried pwysigrwydd a pherthnasedd polisi gweithle o ran llesiant yn y gwaith.

Ar gyfer pwy mae’r gyfres hon

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer rheolwyr, arweinwyr tîm ac unrhyw un sy’n gyfrifol dros ddatblygu neu ddiweddaru polisïau gwaith ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Mae pob rhan o’n bywydau gwaith yn cael effaith ar ein llesiant, gan gynnwys yr amgylchedd rydyn ni’n gweithio ynddo, sut rydyn ni’n teimlo am ein gwaith, y sefydliad a’r bobl rydyn ni’n gweithio efo nhw.

Mae polisïau gwaith yn disgrifio beth sy’n ddisgwyliedig o bawb sy’n gweithio o fewn sefydliad. Maen nhw’n chwarae rôl bwysig o ran cefnogi pobl a’u cadw’n saff yn y gwaith.

Ond, mae angen i bolisïau cael eu hysgrifennu yn y ffordd gywir, yn ogystal â chael eu gweithredu a’u cyfathrebu’n effeithiol.

Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i:

  • dreulio ychydig o amser yn meddwl am gynnwys polisïau eich sefydliad
  • glywed argymhellion a chymorth am sut mae modd newid eich polisïau i gefnogi llesiant yn well yn eich gweithle
  • rhannu syniadau o ran sut i weithredu polisi yn ymarferol mewn ffordd effeithiol ac ystyrlon
  • cysylltu â rheolwyr ac arweinwyr tîm eraill er mwyn rhannu syniadau ac ymarferion.

Sesiynau

I gael y gorau o’r gyfres, rydyn ni’n eich annog i fynychu pob sesiwn.

Cliciwch y linciau islaw i archebu eich lle ar Eventbrite. Mae angen archebu eich lle ym mhob sesiwn ar wahân.