Jump to content
Matthew Burrows
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Yn flaenorol CPI Care Ltd
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan Bwyllgor -  proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad


Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.

Datganiad Ffeithiau wedi’I gytuno

Cefndir

1. Ar 21 Ionawr 2020, cofrestrwyd Mr Matthew Burrows ("Mr Burrows") gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) fel Gweithiwr Gofal Cartref.

2. Roedd Mr Burrows yn cael ei gyflogi fel gweithiwr cymorth gan CPI Care Limited yng Nghasnewydd, De Cymru (“y cyflogwr”) o 17 Mehefin 2018 tan iddo ymddiswyddo o’i swydd ar 10 Ionawr 2022.

3. Ar 24 Tachwedd 2021 datgelodd cydweithwyr i Mr Burrows nifer o bryderon i’w cyflogwr. Ataliwyd Mr Burrows o’i waith ar y diwrnod hwnnw tan i ymchwiliad gael ei gynnal.

4. O ganlyniad i’r pryderon, gwnaeth cyflogwr Mr Burrows atgyfeiriad diogelu. Arweiniodd hyn at gynnal cyfarfod diogelu ar 18 Mawrth 2022.

5. Cynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol a’r Heddlu ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach. Cafodd atgyfeiriad ei wneud i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd.

6. Ar 25 Ebrill 2022, derbyniodd GCC atgyfeiriad gan gyflogwr Mr Burrows.

7. Ar 23 Mehefin 2022 e-bostiodd Mr Burrows Uwch Swyddog Addasrwydd i Ymarfer GCC, Mr Jonathan Price ("Mr Price"), yn gofyn am gael ei dynnu oddi ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru drwy gytundeb o dan Reol 9 o’r Rheolau Ymchwiliad 2020.

Cyhuddiadau

Tra’ch bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref a’ch cyflogi gan CPI Care Limited, i chi:
a) ar 14 Tachwedd 2021:
i) yfed alcohol tra roeddech ar ddyletswydd/neu

8. Dywedodd cydweithiwr fod Mr Burrows wedi dweud wrthi ar 15 Tachwedd 2021 ei fod wedi yfed alcohol wrth wylio gêm rygbi yn Beaufort Rugby, Blaenau Gwent y diwrnod cynt, tra ar shifft yn cynorthwyo defnyddiwr gofal a chymorth. Soniodd y defnyddiwr gofal a chymorth dan sylw am hyn hefyd pan gafodd ei gyfweld gan yr heddlu a gweithiwr cymdeithasol.

9. Cafodd Mr Burrows ei gyfweld gan ei gyflogwr a chyfaddef i’r honiad. Yn ystod sgwrs ffôn gyda Mr Price ar 26 Mehefin 2022, cadarnhaodd Mr Burrows ei fod yn cyfaddef, gan ddweud ei fod wedi “rhoi ei ddwylo i fyny” gan mai “dyma’r peth iawn i’w wneud”.

ii) rhoi meddyginiaeth i Ddefnyddiwr Gofal a Chymorth tra roeddech dan ddylanwad alcohol.

10. Dywedodd y cydweithiwr hefyd fod Mr Burrows wedi dweud wrthi ei fod wedi dychwelyd i’r gwaith a rhoi meddyginiaeth nos i’r defnyddiwr gofal a chymorth tra roedd o dan ddylanwad alcohol, fel y nodir yng nghyhuddiad 1 a) i) uchod.

11. Cyfaddefodd Mr Burrows i’r cyhuddiad hwn yn ystod ymchwiliad ei gyflogwr a chadarnhau iddo gyfaddef i Mr Price yn ystod sgwrs ffôn ar 22 Mehefin 2022.

b) ar ddyddiad anhysbys cyn 24 Tachwedd 2021:
i) ei fod wedi torri cyfrinachedd defnyddiwr gofal a chymorth trwy ei drafod gyda chyn aelodau staff.

12. Dywedodd cydweithiwr fod Mr Burrows wedi cyfaddef i dorri cyfrinachedd drwy drafod defnyddiwr gofal a chymorth gyda chyn aelodau staff.

13. Pan holodd y cyflogwr Mr Burrows, cyfaddefodd i’r cyhuddiad. Cadarnhaodd Mr Burrows iddo gyfaddef i Mr Price yn ystod sgwrs ffôn ar 22 Mehefin 2022.


Casgliad

14. Mae Mr Burrows yn cadarnhau ei fod yn cytuno â’r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.

15. Dylid nodi bod Mr Burrows wedi’i gyflogi gan CPI Care am bedair blynedd ac nad oedd unrhyw bryderon wedi’u mynegi am ei ymarfer yn y cyfnod hwnnw.

16. Mae Mr Burrows yn cadarnhau nad oes ganddo fwriad i weithio mewn unrhyw swyddogaeth sy’n gofyn am gofrestriad GCC yn y dyfodol.

17. Mae Mr Burrows yn cydnabod y bydd y datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt yn cael ei ystyried wrth benderfynu ei addasrwydd ar gyfer cofrestru pe bai’n gwneud cais am gofrestru gyda GCC yn y dyfodol.