Manylion siaradwyr, gweithdai ac aelodau'r panel am y gynhadledd dathlu gwaith cymdeithasol ar 9 Tachwedd.
Siaradwyr
Sarah McCarty
Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru
Ymunodd Sarah â Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2016 a hi yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer datblygu’r gweithlu, gwella gwasanaethau, ymchwil, data ac arloesi.
Ar ôl dechrau ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid, mae Sarah wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol, gan gefnogi cyfranogiad a chynhwysiant plant.
Mae hi wedi gweithio ym maes datblygu polisi a gwella gwasanaethau awdurdodau lleol a, chyn ei rôl bresennol, bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr partneriaeth y DU o sefydliadau’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae Sarah yn dysgu Cymraeg.
Alwyn Jones
Llywydd ADSS Cymru
Bu Alwyn yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol am dros 16 mlynedd, yn dilyn 11 mlynedd mewn gofal iechyd. Mae Alwyn yn teimlo’n ffodus ei fod wedi gweithio o fewn gwasanaethau pobl hŷn ac anabledd, ac fel Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion. Bu’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn ac yn Wrecsam.
Albert Heaney
Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru
Penodwyd Albert Heaney yn Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2021. Mae’r rôl yn dod ag arweinyddiaeth genedlaethol i ofal cymdeithasol a bydd yn hyrwyddo lleisiau’r rheini nad ydynt yn aml yn cael eu clywed.
Ers cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ym 1988, mae Albert wedi dal rolau ymarfer ac arwain uwch. Mae hyn wedi cynnwys Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n arwain ar wasanaethau plant ac oedolion.
Yn ystod pandemig Covid-19, roedd Albert yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae’n arwain cyfarwyddiaeth brysur yn Llywodraeth Cymru sy’n darparu deddfwriaeth a pholisi, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Fel Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, mae Albert eisiau helpu i lunio sector sydd bob amser yn dysgu ac yn gwella i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cyflawni ar gyfer dinasyddion Cymru.
Rhoda Emlyn-Jones OBE MA mewn moeseg gymdeithasol, CQSW, Dip SW
Mae Rhoda wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers y 1970au, gan helpu i ddatblygu gwasanaethau oedolion a phlant, iechyd a gofal cymdeithasol.
Enillodd hi Wobr Cymraes y Flwyddyn yn 2007 am ei chyfraniadau arloesol i ymarfer a darpariaeth effeithiol. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am wasanaethau i deuluoedd difreintiedig drwy ddylanwadu ar fodelau arfer gorau ledled y DU.
Erbyn hyn, mae hi’n gweithio’n annibynnol, gan gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU i ddatblygu’r gweithlu’n strategol. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys meithrin sgiliau a chapasiti mewn gwasanaethau cyhoeddus i rymuso unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Aaron Edwards
Rheolwr Rhaglen Teleofal Genedlaethol TEC Cymru
Tec Cymru yw’r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi ei alluogi gan dechnoleg yng Nghymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Aaron wedi cyflawni sawl rôl yn y sector teleofal yng Nghymru, ac erbyn hyn mae’n chwarae rôl allweddol yn gweithio gyda’r 22 gwasanaeth teleofal yng Nghymru a ddarperir gan gynghorau.
Mae Aaron yn gweithio gyda gwasanaethau i ddatblygu mentrau cenedlaethol a rhoi cymorth penodol i helpu i symud gwasanaethau i lwyfannau digidol.
Panel
Abyd Quinn Aziz (Cadeirydd)
Cyfarwyddwr y Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae Abyd yn ddarllenydd mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n cwblhau doethuriaeth broffesiynol mewn gwaith cymdeithasol. Cyn hynny, bu’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, datblygu rheolwyr ac fel gweithiwr cymdeithasol am dros 25 mlynedd. Sefydlodd Abyd y prosiectau Cynadleddau Grŵp Teulu cyntaf yn ne Cymru ar draws awdurdodau lleol a chadeiriodd gynadleddau amddiffyn plant.
Mae’n aelod o bwyllgor BASW Cymru, grŵp llywio Cynghrair Hil Cymru, yn ymddiriedolwr gyda Tros Gynnal Plant ac ar Fwrdd Rheoli Islam y DU. Mae ganddo ddiddordeb ymchwil mewn cynadleddau grŵp teuluol ac mewn gwrth-hiliaeth. Yn ddiweddar, cyd-olygodd Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.
Jonathan Griffiths
Jonathan yw’r Cyfarwyddwr Trawsnewid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro.
Jonathan oedd llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.
Mae Jonathan wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 25 mlynedd ac mae’n angerddol dros gydweithio i hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.
Alwyn Jones
Llywydd ADSS Cymru
Bu Alwyn yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol am dros 16 mlynedd, yn dilyn 11 mlynedd mewn gofal iechyd. Mae Alwyn yn teimlo’n ffodus ei fod wedi gweithio o fewn gwasanaethau pobl hŷn ac anabledd, ac fel Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion. Bu’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn ac yn Wrecsam.
Rhoda Emlyn-Jones OBE MA mewn moeseg gymdeithasol, CQSW, Dip SW
Mae Rhoda wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers y 1970au, gan helpu i ddatblygu gwasanaethau oedolion a phlant, iechyd a gofal cymdeithasol.
Enillodd hi Wobr Cymraes y Flwyddyn yn 2007 am ei chyfraniadau arloesol i ymarfer a darpariaeth effeithiol. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am wasanaethau i deuluoedd difreintiedig drwy ddylanwadu ar fodelau arfer gorau ledled y DU.
Erbyn hyn, mae hi’n gweithio’n annibynnol, gan gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU i ddatblygu’r gweithlu’n strategol. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys meithrin sgiliau a chapasiti mewn gwasanaethau cyhoeddus i rymuso unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Andrew Pennington, Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol gyda Chyngor Sir Powys
Mae Andrew wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 30 o flynyddoedd. Dechreuodd ei yrfa yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu sy’n byw mewn tenantiaethau â chymorth yn ne Cymru. Mae’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig ers 2013, ac mae wedi gweithio ym maes gwasanaethau plant ac mewn timau iechyd meddwl cymunedol.
Yn ei rôl bresennol, mae’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Mae gwaith ei dîm yn cynnwys cefnogi pobl sydd â dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol ac oedolion sydd â diagnosis iechyd meddwl eilaidd. Mae Andrew wedi bod yn aelod o BASW Cymru ers 10 mlynedd ac yn aelod o’r pwyllgor am y chwe blynedd diwethaf, lle mae’n gweithredu fel cyd-gadeirydd.
Jon Day
Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu yn Gofal Cymdeithasol Cymru
Dechreuodd gyrfa 30 mlynedd Jon ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau anabledd dysgu yn y sectorau iechyd a gwirfoddol. Ers hynny, mae wedi gweithio ym maes addysg, hyfforddiant ac adnoddau dynol, ac wedi bod yn ymgynghorydd i Anabledd Dysgu Cymru. Ar hyn o bryd mae Jon yn Gadeirydd Anabledd Dysgu Cymru.
Mark Roderick
Mae Mark wedi bod yn mynychu gwasanaeth dydd New Horizons ar gyfer anableddau corfforol yn y Barri am yr wyth i ddeg mlynedd diwethaf. Yn y ganolfan, mae Mark wedi bod yn rhan o ddau brosiect llwyddiannus iawn.
Mae Mark hefyd yn arwain y panel cleientiaid yng Ngwasanaeth Dydd New Horizons. Mae’r panel yn cynrychioli anghenion cleientiaid yn y ganolfan ac yn y gymuned ehangach.
Laurel Morgan
Laurel Morgan, Rheolwr Tîm Dros Dro y Gwasanaeth Therapiwtig yn Cyngor Sir Ddinbych
Mae Laurel yn rheoli tîm sy'n darparu cefnogaeth integredig i deuluoedd ac ymyl ymyriadau gofal.
Yn weithiwr cymdeithasol sy'n ymarfer am 15 mlynedd mewn gwasanaethau iechyd plant ac iechyd meddwl, un o uchafbwyntiau gyrfa Laura fu'n arwain ar gyflwyno ymarfer seiliedig ar gryfderau (cyfathrebu cydweithredol) mewn gwasanaethau plant ac oedolion.
Gweithdai
Cynllunio ymlaen llaw: gwerth trafod marwolaeth a marw mewn gwaith cymdeithasol
Bydd y gweithdy sgwrsio hwn yn canolbwyntio ar ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau mewn gofal diwedd oes. Bydd yn ystyried dilemâu moesegol mewn ymarfer gwaith cymdeithasol ac yn canolbwyntio ar gael sgyrsiau ‘anodd’ am farwolaeth a marw.
Gwybodaeth am y cyflwynydd
Cymhwysodd Jonathan, sy’n gweithio ym maes addysg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, fel gweithiwr cymdeithasol ym 1999, ac mae wedi gweithio ym maes iechyd meddwl a gofal lliniarol. Mae ei feysydd diddordeb yn cynnwys lles (mae’n hyfforddwr cymwysedig) a gwaith lliniarol sy’n cynnwys darparu gwasanaethau yn uniongyrchol, goruchwylio, hyfforddi ac addysg. Mae’n teimlo’n angerddol am greu cyfleoedd i ddatblygu hyder, cymhwysedd a gwerth sgyrsiau am farw, marwolaeth a galar.
Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS), 13 mlynedd o Fyfyrio ac Adfywio: taith y cryfderau mewnol
Cafodd y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ei greu 13 mlynedd yn ôl ac mae’n ddull gweithredu cyflawn sy’n edrych ar adeiladu cryfderau mewnol teuluoedd er mwyn gallu ymgymryd â’r heriau sy’n gysylltiedig â newid. Mae’r gweithdy’n cyflwyno llais cyfunol ymarferwyr o bob cwr o Gymru a lleisiau’r rheini sydd wedi gweithio gyda ni.
Pwy ydw i?
Bydd y sesiwn yn ffocysu ar bwysigrwydd hunaniaeth iaith a sut mae hyn yn cysylltu ag ymarfer gwaith cymdeithasol. Bydd cyflwyniad synhwyraidd (lluniau a cherddoriaeth) yn cael ei ddefnyddio i rannu safbwyntiau a phrofiadau o ddefnyddio’r iaith Gymraeg, byw yng Nghymru ac ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Arweinyddiaeth dosturiol a pham ei fod yn bwysig
Bydd Bec Cicero (Gofal Cymdeithasol Cymru) a Taryn Stevens yn cyflwyno gweithdy sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth dosturiol, a pham ei fod yn bwysig.
Dathlu gwaith cymdeithasol
Bydd gweithwyr proffesiynol gwaith cymdeithasol o ogledd Cymru yn rhannu straeon personol a myfyrdodau ar eu gyrfaoedd gwaith cymdeithasol a’r cyflawniadau sylweddol a gyflawnir gan weithwyr cymdeithasol. Bydd y gweithdy hefyd yn gyfle i nodi heriau allweddol i’r proffesiwn gwaith cymdeithasol a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â nhw yng ngogledd Cymru.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal gan weithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol o bob awdurdod lleol (Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn).
Y datganiad o annibyniaeth: yn ein cefnogi ni i fyw ein bywydau gorau
Cyflwynir gan Llais a Rheolaeth
Bydd ein hunan-eiriolwyr yn arwain trafodaeth ar ddefnyddio dull o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar gryfderau a risg cadarnhaol i helpu pobl i fyw eu bywydau gorau. Byddwch yn dysgu am feysydd ymarfer gwaith cymdeithasol effeithiol, a phwysigrwydd hunan-eiriolaeth a dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Grŵp bach o hunan-eiriolwyr sydd wedi cyd-greu adnoddau am lais a rheolaeth a chefnogaeth dda. Mae’r aelodau wedi gweithio gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, ac ochr yn ochr â nhw, i gyd-gynhyrchu a chomisiynu cyfleoedd sy’n cael eu rhedeg gan ddinasyddion, ar gyfer dinasyddion.
Y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol cyntaf ar gyfer Gwasanaethau Plant yng Nghymru
Cyflwynir gan Anthony Douglas CBE a Jonathan Griffiths, Cyfarwyddwr Trawsnewid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Llywodraeth Cymru
Bydd y gweithdy hwn yn mynd drwy’r fframwaith, ei egwyddorion a’r safonau drafft. Byddwch yn cael cyfle i roi sylwadau ac adborth ar y gwaith sydd ar y gweill.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Anthony Douglas oedd Prif Weithredwr Cafcass Cymru rhwng 2004 a 2019. O dan ei arweinyddiaeth, aeth sgôr Ofsted Cafcass Cymru o 'annigonol' i 'rhagorol', a thyfodd i gefnogi 140,000 o blant y flwyddyn.
Mae Anthony wedi ysgrifennu sawl llyfr am ofal cymdeithasol. Yn 2018, derbyniodd y wobr ‘cyfraniad eithriadol at waith cymdeithasol’ yng Ngwobrau Gweithiwr Cymdeithasol y Flwyddyn.
Mae bellach yn gweithio ar draws y DU ac yn rhyngwladol ar arweinyddiaeth systemau a rhaglenni gwella cyflym. Ar hyn o bryd mae’n datblygu ac yn ysgrifennu’r Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru fel cynnyrch hanfodol yn y Rhaglen gyffredinol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Plant.
Jonathan Griffiths
Jonathan yw’r Cyfarwyddwr Trawsnewid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro.
Jonathan oedd llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.
Mae Jonathan wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 25 mlynedd ac mae’n angerddol dros gydweithio i hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.
Datblygu dulliau sy’n seiliedig ar drawma ar gyfer cefnogi llesiant staff
Bydd y gweithdy hwn yn rhannu profiadau a dysgu o ddatblygu dulliau sy’n seiliedig ar drawma o gefnogi lles staff yng ngwasanaethau plant awdurdodau lleol Powys. Yn y sesiwn, byddwch yn cael rhannu eich profiadau, eich myfyrdodau a’ch ymarfer eich hun.
Am y cyflwynwyr
Rrob Painter
Cyn cael ei hyfforddi fel Seicolegydd Clinigol, bu Rob yn gweithio yn y GIG ac yn y sector anstatudol gyda phobl ifanc agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, materion iechyd meddwl ac ymddygiad troseddol. Mae Rob hefyd wedi gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal sydd ag anghenion cymhleth ac ymddygiadau heriol, sydd mewn perygl o gael lleoliadau preswyl y tu allan i’r sir.
Mae Rob wedi’i leoli yn y Gwasanaethau Plant gyda rôl benodol i gefnogi ymarferwyr, timau a gofalwyr o ran eu gwaith yn cefnogi plant a theuluoedd.
Claire Phillips
Dechreuodd gyrfa 24-mlynedd Claire mewn timau plant a theuluoedd. Symudodd i faes maethu am saith mlynedd ac, ers tair blynedd ar ddeg, mae wedi gweithio ym maes ymarfer mabwysiadu. Mae Claire yn teimlo ei bod yn fraint gweithio ym maes mabwysiadu ac ymarfer drwy lens sy’n ystyriol o drawma. Ers bod mewn rôl reoli, mae Claire wedi cael ei denu at faes straen trawmatig ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a staff, a datblygu strategaethau sy’n ymateb yn dosturiol i straen trawmatig.
Pwy ydw i?
Bydd y sesiwn yn ffocysu ar bwysigrwydd hunaniaeth iaith a sut mae hyn yn cysylltu ag ymarfer gwaith cymdeithasol. Bydd cyflwyniad synhwyraidd (lluniau a cherddoriaeth) yn cael ei ddefnyddio i rannu safbwyntiau a phrofiadau o ddefnyddio’r iaith Gymraeg, byw yng Nghymru ac ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Gwenan Prysor
Gwenan yw Cyfarwyddwr yr MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
Ar ôl cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yn y 1990au, mae Gwenan wedi bod yn gweithio’n bennaf gyda phlant a theuluoedd, gan gynnwys diogelu. Daeth yn fwy a mwy gweithgar ym maes hyfforddiant gwaith cymdeithasol, cyn ymuno â'r brifysgol.
Diddordebau proffesiynol Gwenan yw’r iaith Gymraeg mewn gwaith cymdeithasol ac effaith profiadau plentyndod cynnar ar les oedolion. Mae hi’n dal i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.
Wendy Roberts
Mae Wendy yn Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda dros 16 mlynedd o brofiad o weithio ar draws Gwasanaethau Plant yng ngogledd Cymru.
Cyn iddi ymuno â Phrifysgol Bangor, bu Wendy yn gweithio fel mentor ymarfer gyda’r Prosiect Amddiffyn Plant Effeithiol yng Ngwynedd. Mae gan Wendy hefyd ddiddordeb brwd mewn ymarfer myfyriol, a hunanofal a lles.
Rhian Grace Lloyd
Mae Rhian yn Ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol ar gwrs MA Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor. Mae ganddi gefndir ymarferol ym maes gwaith cymdeithasol, ar ôl gweithio fel swyddog prawf yng ngogledd Cymru.
Maes ymchwil Rhian yw ‘archwilio profiadau bywyd unigolion sy’n rhoi gofal er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o hunaniaeth gofalwyr di-dâl’.