Jump to content
Datgloi pŵer data gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru - canllaw digwyddiad

Manylion am siaradwyr a gweithdai ar gyfer Datgloi pŵer data gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru ar 6 Chwefror.

Dau berson yn gweithio ar gliniadur

Croeso i Ddatgloi pŵer data gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru!

Rydyn ni wedi ymuno ag YDG Cymru i drefnu’r digwyddiad hwn, lle byddwn ni'n archwilio cyfleoedd i wneud y gorau o ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion.

Beth fyddwn ni'n ei wneud:

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod datblygiad data gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru.
  • Bydd YDG Cymru yn arwain gweithdy gyda ni ar osod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil data cysylltiedig.
  • Bydd Alma Economics yn arwain gweithdy am ein gwaith parhaus gyda nhw i asesu aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Bydd cynrychiolwyr o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, YDG Cymru a Banc Data SAIL yn arwain gweithdy am gynnwys y cyhoedd a meithrin ymddiriedaeth wrth rannu data.
Cynulleidfa mewn cynhadledd

Gwybodaeth pwysig

  • Recordio: Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom a bydd yn cael ei recordio.
  • Newid i'r agenda: Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu'n wreiddiol i gynnwys lansiad grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion ar gyfer ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn prosiectau ymchwil data-ddwys ym maes gofal cymdeithasol oedolion. Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, bydd y sesiwn hon yn cael ei haildrefnu ar gyfer dyddiad diweddarach.

Agenda llawn

10.00am i 10.15am: Cadw tŷ

10.15am i 10.40am: Croeso a sylwadau agoriadol - Mike Emery, Prif Swyddog Digidol ac Arloesi (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)

10.40am i 11.25am: Lynsey Cross, Swyddog Ymchwil, thema gofal cymdeithasol YDG Cymru - Gosod blaenoriaethau ymchwil data cysylltiedig

11.25am i 11.35am: Egwyl

11.35am i 12.20pm: Rob Dutfield, Alma Economics - Aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru – y stori hyd yn hyn

12.20pm i 1.10pm: Cinio

1.10pm i 1.45pm: Dr Rich Fry, Prifysgol Abertawe - Archwilio sut mae ymchwil data-ddwys wedi gwella polisi ac ymarfer

1.45pm i 2.15pm: Joseph Wilton, Pennaeth Lles a Gwelliant, Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru - Datblygu data gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru

2.15pm i 2.25pm: Egwyl

2.25pm i 2.45pm: Cynnwys y cyhoedd a meithrin ymddiriedaeth wrth rannu data

2.45pm i 3pm: Sylwadau cloi - Lisa Trigg, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesi Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhowch eich barn

Defnyddiwch ein ffurflen adborth i ddweud eich barn am y digwyddiad heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Ionawr 2024
Diweddariad olaf: 1 Chwefror 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (64.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch