Jump to content
Gweithdy: ymarfer tosturi i ddatrys gwrthdaro mewn timau
Digwyddiad

Gweithdy: ymarfer tosturi i ddatrys gwrthdaro mewn timau

Dyddiad
14 Mai 2024, 1pm i 4pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Happy Headwork

Rydyn ni'n cynnal cyfres o weithdai gyda Happy Headwork i'ch helpu i ddatblygu llesiant a gwydnwch yn eich sefydliad.

Am fwy o wybodaeth am y gyfres, ewch i adran newyddion ein gwefan.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n:

  • dysgu am achosion cyffredin gwrthdaro
  • trafod gwahanol fathau o gyfathrebu ac ymwybyddiaeth gymdeithasol-ddiwylliannol
  • dysgu am rôl y mae ein system straen yn ei chwarae mewn gwrthdaro (emosiynol, corfforol, gwybyddol ac ymddygiadol)
  • dysgu am batrymau ymddygiad a all ddigwydd yn ystod gwahanol ffyrdd o ryngweithio
  • dysgu ffyrdd o ddatrys neu dawelu gwrthdaro â thosturi a chefnogaeth
  • dysgu sut i ystyried diogelu wrth reoli neu ddatrys gwrthdaro.

Gallwch ddefnyddio'r sesiwn hon tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydych wedi cofrestru gyda ni.

I bwy mae'r sesiwn hon

Mae'r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli timau ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant.