Ynghyd â BASW Cymru, rydyn ni’n cynnal dwy gynhadledd am ddim yng Nghaerdydd a Llandudno yr hydref hwn.
Mae ein cynadleddau Dathlu gwaith cymdeithasol, a noddir gan TEC Cymru, yn gyfle i bobl sy’n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig ymarferwyr a myfyrwyr, glywed gan siaradwyr ysbrydoledig a dod at ei gilydd i rannu ffyrdd o weithio.
Cynhelir y cynadleddau ar:
- 26 Hydref yng Nghanolfan All Nations, Caerdydd
- 9 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno.
Byddwn ni hefyd yn cynnal gweithdai gan ymarferwyr gofal cymdeithasol, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, ac academyddion gwaith cymdeithasol. Bydd y gweithdai yn cynnwys lleisiau pobl sydd â phrofiad byw.
Bydd digwyddiad panel hefyd, dan gadeiryddiaeth Abyd Quinn Aziz, Cyfarwyddwr y rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y panel yn cynnwys ymarferwyr, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a chynrychiolwyr o BASW Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Teithio i'r cynadleddau
- Venue Cymru, Llandudno
Mae Venue Cymru tua hanner milltir o orsaf drenau Llandudno.
Cewch wybodaeth ar sut i deithio yna ar fws, trên neu gar ar wefan Venue Cymru. - Canolfan All Nations, Caerdydd
Mae'r ganolfan tua 300 metr o'r safle bws agosaf, a tua milltir o'r orsaf drenau agosaf.
Cewch wybodaeth ar sut i deithio yna ar fws, trên neu gar ar wefan Canolfan All Nations.