Rydyn ni'n cynnal cyfres o weithdai gyda Happy Headwork i'ch helpu i ddatblygu llesiant a gwydnwch yn eich sefydliad.
Am fwy o wybodaeth am y gyfres, ewch i adran newyddion ein gwefan.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n:
- dysgu am beth yw hyder dilys
- dysgu am systemau hunan-gyfyngu, a sut maent yn effeithio ar eich hyder
- cael cyfle i adlewyrchu ar bethau yn eich bywyd yr hoffech eu gwneud gyda mwy o hyder
- cael persbectif newydd am fod yn bendant
- cael gweld beth sy'n eich ysgogi a dod o hyd i ffyrdd o fod yn fwy brwdfrydig.
Gallwch ddefnyddio'r sesiwn hon tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydych wedi cofrestru gyda ni.
I bwy mae'r sesiwn hon
Mae'r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli timau ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant.