Jump to content
Ymgynghoriad ar gam 2 o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith
Newyddion

Ymgynghoriad ar gam 2 o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith

| Charmine Smikle

Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar welliannau i'r ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei reoleiddio er mwyn creu cyfundrefn reoleiddio ac arolygu newydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am eich sylwadau ar y canllaw statudol drafft a ddatblygwyd o dan adran 29 o’r Ddeddf sy’n darparu mwy o wybodaeth am sut y gall darparwyr gwasanaeth ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â’r gofynion a osodir arnynt

I ategu’r ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnal pedwar digwyddiad hanner diwrnod sy’n rhoi gwybodaeth i randdeiliaid. Maent yn digwydd yng Nghaerdydd ddydd Mercher 21 Mehefin ac yn Wrecsam ddydd Iau 13 Gorffennaf. Os hoffech fynegi diddordeb mewn bod yn bresennol yn un o’r digwyddiadau, anfonwch e-bost i RISCAct2016@wales.gsi.gov.uk erbyn dydd Gwener 2 Mehefin. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar argaeledd.

Darllenwch ye ymgynghoriad ar Cam 2 y broses o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith.

Datganiad ysgrifenedig Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Mawrth 25 Gorffennaf.