Jump to content
Ymgynghoriad am Gam 3 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) – nawr yn fyw!
Newyddion

Ymgynghoriad am Gam 3 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) – nawr yn fyw!

| SCW Online

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri ymgynghoriad yn ymwneud â Cham 3 o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith.

Mae'r Ddeddf yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel, perthnasol, gydag urddas.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar welliannau i’r ffordd y rheoleiddir gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion ac, am y tro cyntaf, gwasanaethau eirioli mewn perthynas ag eiriolaeth statudol i blant.

I gael mwy o fanylion gweler y tudalennau ar y we ar gyfer pob ymgynghoriad:

Gwasanaethau Maethu

Gwasanaethau Lleoli Oedolion

Gwasanaethau Eirioli

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am yr ymgynghoriadau am Gam 3 o’r rheoliadau.

Mae’r Llywodraeth Cymru yn trefnu sesiynau gwybodaeth i gynorthwyo’r ymgynghoriadau:

  • Wrecsam, dydd Mercher 20 Mehefin 2018
  • Caerdydd, dydd Iau 19 Gorffennaf 2018

Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCAct2016@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 8 Mehefin (digwyddiad Wrecsam) neu ddydd Gwener 6 Gorffennaf (digwyddiad Caerdydd). Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar faint sydd ar gael.

Mae'r ymgynghoriadau yn dod i ben ddydd Iau 16 Awst 2018. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at glywed eich safbwyntiau.