Mae ein sesiynau ar gyfer addysgwyr ymarfer yn gyfle i chi gwrdd ag addysgwyr ymarfer eraill a rhannu eich profiadau dysgu am y pethau sy'n bwysig i chi a'ch rôl.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn
Mae'r sesiwn hon ar gyfer:
- addysgwyr ymarfer
- unrhyw un sy'n cwblhau'r cwrs Galluogi dysgu ymarfer.
Beth fyddwn ni'n ei gynnwys
Yn y sesiwn hon, byddwn yn:
- esbonio beth yw profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a sut maent yn effeithio ar blant
- eich cyflwyno i Fframwaith Cymru sy'n ystyriol o drawma a'r Pecyn cymorth trawma ac ACEs
- esbonio beth yw ymarfer sy'n seiliedig ar drawma, a sut y gallwch ei ddefnyddio gyda phlant ac oedolion
- rhannu arfer da ar gyfer cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol a allai fod wedi profi trawma.
Am y cyflwynydd
Bronwyn Roane, Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Strategaeth, Sgiliau a Hyfforddiant ar gyfer hyb ACE Cymru, fydd yn cynnal y gweithdy hwn.
Mae hi wedi bod yn y GIG am y 12 mlynedd diwethaf, gan ddechrau fel Therapydd Galwedigaethol cyn symud i rolau arweinyddiaeth uwch.
Mae ei gwaith wedi dangos iddi pam ei bod yn bwysig bod pobl yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.
Mae Bronwyn yn angerddol am wneud gwasanaethau'n hawdd eu cyrchu, a dylunio gwasanaethau gyda'r bobl sydd angen eu defnyddio.
Archebu eich lle
I gofrestru am le, e-bostiwch Emily Bates: emily.bates@gofalcymdeithasol.cymru