Jump to content
Llythyr agored i'n harchfarchnadoedd
Newyddion

Llythyr agored i'n harchfarchnadoedd

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

I'r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn ein harchfarchnadoedd

Cais i'n helpu i gefnogi ein gweithwyr gofal cymdeithasol anhygoel

Mae'n debyg y byddwch wedi gweld y nifer fawr o adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos hon am yr effaith enfawr y mae COVID-19 yn ei chael ar y sector gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ein cartrefi gofal.

Er bod effeithiau'r pandemig ar y GIG wedi cael cyhoeddusrwydd eang, nid yw rôl allweddol y sector gofal wedi’i chael.

Mae ein gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol i gefnogi oedolion a phlant ym mhob cymuned yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed, ac mae ei waith yn hanfodol i helpu i leihau'r pwysau ar y GIG.

Mae mwy na 90,000 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod gofal cymdeithasol i oedolion yn unig yn cyfrannu hyd at £2.4 biliwn yn anuniongyrchol i economi Cymru.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn aberthu yn debyg i'r rhai sy’n gweithio mewn ysbytai. Maen nhw’n gofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys unigolion gyda Covid-19, mewn cartrefi gofal ac yn eu tai eu hunain, ac yn gweithio oriau hir a shifftiau, gan adael ychydig o amser iddynt siopa am fwyd a darpariaethau hanfodol.

Ond eto, rydym wedi clywed adroddiadau gan weithwyr gofal cymdeithasol ar y rheng flaen sy'n dweud y gall fod yn anodd profi eu bod yn weithwyr allweddol ac maen nhw wedi dweud wrthym ni na allant bob amser brynu bwyd yn hawdd i'r unigolion maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, neu iddyn nhw eu hunain neu i'w teuluoedd.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, y byddem yn dosbarthu cerdyn i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru i'w helpu i adnabod fel gweithiwr allweddol yn ystod y pandemig COVID-19.

Anfonwyd fersiwn ddigidol o'r cerdyn at yr holl weithwyr gofal cymdeithasol ar ddydd Mercher, 15 Ebrill a bydd copi caled yn dilyn hyn.

Mae 12,000 o gardiau digidol eisoes wedi'u lawrlwytho, sy'n dangos faint y mae'n cael ei werthfawrogi gan y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn aml yn siopa am sawl unigolyn sy’n agored i niwed neu am wasanaeth gofal cyfan, a byddai rhoi’r un mynediad ffafriol iddynt â staff y GIG yn ei gwneud yn haws iddynt siopa yn ystod yr argyfwng presennol.

Rydym wedi bod mewn cysylltiad â chi o'r blaen ynglŷn â chydnabod y cerdyn hwn, a chredwn fod rhai archfarchnadoedd eisoes yn cynnwys staff gofal cymdeithasol yn eu horiau agor â blaenoriaeth.

Ond rydym yn awyddus i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru yn gallu cael yr un buddion blaenoriaeth â gweithwyr y GIG ym mhob archfarchnad.

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen eich help arnom. Felly…

A wnewch chi ymrwymo’n ffurfiol i gydnabod y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol a rhoi’r un buddion i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n dangos y cerdyn hwn yn eich archfarchnadoedd yr ydych yn cynnig i staff y GIG?

Os ydych yn hapus i gydnabod y cerdyn hwn yn ffurfiol, byddwn yn cydnabod eich cefnogaeth ac yn ei rannu gyda'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn cyfrif ar weithwyr gofal cymdeithasol i ofalu am aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas a'u cefnogi. A allwn ni ddibynnu arnoch chi i'n helpu ni i gefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol anhygoel?

Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Pob dymuniad da ac arhoswch yn ddiogel,

Sue Evans

Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru