Jump to content
Adroddiadau'r gweithlu

Rydyn ni'n cynnal casgliad blynyddol i gael data a gwybodaeth am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi data cofrestru am y bobl sydd ar ein Cofrestr.

Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni'n casglu’r data gyda chymorth awdurdodau lleol a darparwyr a gomisiynir – sy’n cynnwys busnesau masnachol a sefydliadau di-elw a'r trydydd sector.

O 2026 ymlaen, byddwn ni ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyflwyno un broses casglu data rhwng y ddau sefydliad. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i ddarparwyr gofal cymdeithasol trwy leihau'r angen i gasglu gwybodaeth debyg ddwywaith.

Darllenwch ein darn newyddion am fwy o wybodaeth.

Data cofrestru

Gallwch gael mynediad at y data diweddaraf am y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig drwy ddefnyddio ein dangosfwrdd ar Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.

Mae’r dangosfwrdd yn rhoi trosolwg i chi o rai o’r data sydd gennym fel rhan o’r Gofrestr, ac fe allwch ei deilwra i ddangos yr wybodaeth sydd o’r mwyaf diddordeb i chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithlu cofrestredig yn adran gweithlu'r porth.

Ewch i’r Grŵp Gwybodaeth i ddarganfod mwy am sut rydyn ni'n gwneud data cofrestru’n haws i gael mynediad iddo.

Adroddiadau Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Mae'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth am weithlu darparwyr gofal allanol a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.