Jump to content
Rheolwyr yn trafod gwerth cymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae cymwysterau Lefel 4 a 5 yn newid arweinyddiaeth ar draws y sector gofal cymdeithasol. Mae pob rheolwr cofrestredig yn gorfod eu cael, ond maen nhw’n llawer mwy na blwch ticio yn unig. Maen nhw’n codi safonau, yn gwneud timau’n gryfach, ac yn helpu i wneud gofal gwell ledled Cymru.

Mae ein tri fideo yn rhoi sylw i reolwyr sydd â straeon go iawn.

Maen nhw’n dangos sut mae’r cymwysterau wedi:

  • rhoi hyder iddyn nhw
  • eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd
  • eu helpu i arwain yn fwy effeithiol.

Mae eu profiadau’n dangos effaith dysgu da: staff mwy cymhellol, gwasanaethau cryfach a mwy gwydn, ac yn y pen draw, profiadau gwell i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Yn bwysicaf oll, mae’r straeon hyn yn dangos bod y cymwysterau’n gweithio, ac eu bod nhw’n gyraeddadwy. Gyda’r gefnogaeth gywir, gall pob rheolwr lwyddo, datblygu’n broffesiynol, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Arweinwyr cryfach. Timau cryfach. Gwell canlyniadau.
Dyna rym cymwysterau Lefel 4 a 5 mewn Gofal Cymdeithasol.

Gallwch ddarllen mwy am gymwysterau Lefel 4 a 5 yma.