Gwybodaeth am wneud cais i ddileu eich enw oddi ar y Gofrestr, pan mae cofrestru'n dod i ben ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n dymuno tynnu'n ôl o'u cwrs.
Cais i ddileu enw
Gall person cofrestredig wneud cais i ddileu ei enw oddi ar y Gofrestr ar unrhyw adeg.
Os nad ydych yn bwriadu ymarfer yng Nghymru, dylech ofyn i ni dynnu’ch enw oddi ar y Gofrestr.
I wneud cais i ddileu’ch enw, dylech fewngofnodi i'ch cyfrif GCCarlein a chlicio ar ‘Fy Nghofrestriad neu Adnewyddiad’ a dewis ‘dileu’.
Os ydych yn bwriadu ymarfer mewn rhan arall o’r DU, bydd angen i chi gofrestru gyda’r cyngor perthnasol.
Cofrestriad yn darfod
Mae’n rhaid cwblhau eich cais i adnewyddu o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad adnewyddu. Os nad ydych yn gwneud hynny, byddwn yn anfon hysbysiad o fwriad i ddileu eich enw oddi ar y Gofrestr. Bydd yn cael ei anfon at eich cyflogwr hysbys diwethaf hefyd.
Ni allwn sicrhau y byddwn yn prosesu ceisiadau adnewyddu mewn llai na 21 diwrnod. Oni bai bod eich cofrestriad yn cael ei adnewyddu, bydd yn darfod un diwrnod ar ôl eich dyddiad adnewyddu, a byddwn ni’n rhoi gwybod i’ch cyflogwr diwethaf.
Mae darfod yn golygu y bydd enw person yn cael ei ddileu oddi ar y Gofrestr. Nid yw’n gallu ymarfer yn gyfreithlon yng Nghymru gan nad yw wedi’i gofrestru.
Os yw’ch cofrestriad wedi darfod a bod angen i chi ddychwelyd i’r Gofrestr bydd angen i chi gyflwyno cais newydd.
Dileu trwy gytundeb
I gael gwybodaeth am ddileu trwy gytundeb gweler Sut rydym yn delio â phryderon.
Myfyrwyr cofrestredig sy’n gadael eu cwrs
Os ydych yn fyfyriwr, bydd eich prifysgol yn rhoi gwybod i ni os ydych yn gadael eich cwrs. Wedyn byddwn yn dechrau’r broses o ddileu’ch enw oddi ar y Gofrestr. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y broses wedi’i chwblhau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.