Mae'r gyfres o weminarau rhyngwladol yn rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sy'n dod â Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHPs) yng Nghymru a Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy (ASWs) yng Ngogledd Iwerddon at ei gilydd.
Mae'r gyfres gweminarau yn dod ag ymarferwyr iechyd meddwl at ei gilydd i fyfyrio, dysgu a gweithio ar y cyd. Mae'n creu gofod proffesiynol i bobl sy'n gweithio o dan wahanol gyfreithiau ond sy'n cyflawni rolau statudol tebyg.
Er bod ASWs ac AMHPs yn gweithio o dan ddeddfwriaeth wahanol (Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986 a Deddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016 ar gyfer ASWs a Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y'i diwygiwyd) ar gyfer AMHPs), mae'r ddwy rôl yn cynnwys gwneud penderfyniadau annibynnol ynghylch derbyn gorfodol a diogelu hawliau pobl.
Bydd y gyfres yn:
- edrych ar beth sydd gan y rolau hyn yn gyffredin
- esbonio gwahaniaethau allweddol yn y gyfraith ac ymarfer proffesiynol
- archwilio datblygiadau polisi ac ymarfer newydd ar draws cenhedloedd
- cefnogi dysgu a rennir a myfyrio proffesiynol.
Bydd y gyfres hefyd yn cryfhau cymuned broffesiynol ASWs ac AMHPs. Mae'n cydnabod bod y rolau hyn yn gymhleth ac mae’n aml yn cynnwys gweithio o dan bwysau mawr.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn a byddan nhw'n cael eu cynnal ar-lein ar Microsoft Teams.
Gall pob ASW yng Ngogledd Iwerddon a pob AMHP yng Nghymru ymuno.
Nod y gweminarau
Bydd y rhaglen gydweithredol yn:
- annog trafodaeth broffesiynol rhwng ASWs ac AMHPs ar draws gwahanol genhedloedd
- cynnig cyfleoedd DPP clir a strwythuredig
- cefnogi myfyrio ar wneud penderfyniadau statudol a barn broffesiynol
- archwilio gwahaniaethau mewn systemau, yn ogystal â heriau tebyg, mewn cyfraith ac ymarfer iechyd meddwl
- cryfhau cymuned ymarfer ar draws awdurdodaethau.
Fformat
Bydd pob sesiwn yn cynnwys:
- cyflwyniadau ymarfer byr o bob cenedl
- diweddariadau ar ddatblygiadau polisi ac arferion allweddol
- trafodaeth a myfyrio rhyngweithiol
- amser i gytuno ar themâu ar gyfer sesiynau yn y dyfodol
Sesiwn 1
Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy a Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy: Rôlau, cyd-destunau a heriau
Pwrpas
Bydd y sesiwn gyntaf yn cyflwyno rolau ASW ac AMHP ac yn esbonio'r fframweithiau cyfreithiol ac ymarfer yng Ngogledd Iwerddon a Chymru. Bydd hefyd yn dechrau sgwrs am heriau proffesiynol tebyg a blaenoriaethau ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad ar y model Gofal Cywir Person Cywir (RCRP) a'r hyn y mae'n ei olygu i wasanaethau iechyd meddwl.
Agenda
1. Croeso a chyflwyniad
Trosolwg o'r gyfres gweminarau cydweithredol rhyng-genedl
- pwrpas y cydweithrediad
- cyd-destun ar gyfer dysgu traws-genedl
- strwythur y gyfres
2. Rôl ASW yng Ngogledd Iwerddon (Hyd: 30 munud)
Cyflwynydd:
Steph Kerr, Rheolwr Gwasanaeth - Deddf Galluedd Meddyliol a Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Cymeradwy, Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Belfast
3. Rôl yr AMHP yng Nghymru (Hyd: 30 munud)
Cyflwynydd:
Katherine Lewis, Cyngor Caerdydd
4. Gofal Cywir Person Cywir (RCRP) (Hyd: 45 i 60 munud)
Cyflwynydd:
Michael Brown
5. Trafod a gosod yr agenda ar gyfer sesiynau yn y dyfodol
Datganiad ar y cyd gan yr hwyluswyr
Mae'r gyfres weminarau hon yn dwyn ynghyd ymarferwyr sy'n cyflawni rolau iechyd meddwl statudol mewn gwahanol rannau o'r DU. Mae'n creu gofod a rennir ar gyfer myfyrio, trafod a chydweithio.
Mae ASWs ac AMHPs yn gweithio o dan wahanol gyfreithiau, ond mae'r ddwy rôl yn canolbwyntio ar amddiffyn hawliau pobl, gwneud penderfyniadau annibynnol, a darparu gofal cyfreithlon a thosturiol.
Trwy gysylltu ymarferwyr o Ogledd Iwerddon a Chymru, mae'r gyfres yn cefnogi dysgu a rennir, myfyrio proffesiynol, a chymuned gref o ymarfer.